Cynhaliwyd y daith gerdded ar y 13eg Mehefin gyda'r plant a'u rhieni yn cerdded dros bont
Gower i Drefriw ac yn ôl.
Biti nad yw'r cae chwarae mewn bodolaeth bellach ond cafwyd
llawer o hwyl yn bwyta hufen iâ ac yn chwarae ger (ac yn) yr afon, gyda rhai o'r plant mawr
wedi gwlychu at eu crwyn!
Diolch i bawb am gymryd rhan,
ac i'r rhai fu mor garedig c noddi'r plant - llwyddwyd i godi
dros £250.
Yna, ar y 18fed
Mehefin, cynhaliwyd disgo yn
neuadd yr ysgol gyda Leigh yn
cyfrannu ei wasanaeth fel DJ
am ddim unwaith eto - diolch
yn fawr iawn iddo ef, i Mr Gwyn
Grittiths y Pritathro am ganiatáu i ni gael defnyddio'r
neuadd (hyn ynddo'i hun yn
dangos ymddiriedaeth
oherwydd mai hon oedd yr
achlysur cyhoeddus cyntaf yn y
neuadd newydd - diolch i
\ Gwyn am gymryd y risg!), i
Julie am siopa am y bwyd, ac i bawb fu'n helpu ar y noson, yn enwedig Gwenan a Viv fu
wrthi'n gwerthu cŵn poeth fel tasa nhw'n mynd allan o ffasiwn!
Llwyddwyd i godi dros £200
wedi costau.
Yn olaf, cynhaliwyd stondin mefus a hufen ym mabolgampau'r pentre, trwy
garedigrwydd y Pwyllgor Adloniant.
Llwyddodd Manon a Mary i werthu gwerth £78 ar y
noson a oedd wrth lwc yn braf a chynnes, felly'n dywydd delfrydol ar gyfer gwerthu'r fath
ddanteithion.
Diolch i'r ddwy am eu gwaith caled, i bawb gyfrannodd fefus yn enwedig Mary a
Nelson, ac i Wyn a Paula (O'r Pridd i'r Plât) am werthu mefus ychwanegol a hufen i ni
unwaith eto eleni, heb wneud unrhyw fath o elw eu hunain.
Byddwn yn defnyddio'r arian a godwyd ar gyfer prynu offer a deunyddiau ar gyfer y plant, ac ar gyfer costau cynnal a chadw
cyffredinol y Cylch - diolch o galon i bawb am eu cefnogaeth.
Ymunodd tri phlentyn newydd a'r Cylch yn ystod y mis, sef Iwan Bassett, Iwan Meirion a
Rhys Hywel - croeso mawr i'r tri ohonynt.
Byddant yn ail-ymuno gyda ni yn ystod mis Medi,
tra bo Osian, Morgan ac Alfie yn cychwyn yn y Dosbarth Meithrin, gyda Tom, Celt ac Elen yn
gadael Meithrin Mwy ac yn symud i'r Dosbarth Derbyn - pob lwc iddynt i gyd.
Diolch yn fawr i'r rheini a staff yr ysgol am eu cefnogaeth yn ystod y tymor.