Deuthum o hyd i gopi o Yr Odyn Ionawr 1984 pryd y cefais gyfle i gyflwyno erthygl ar gyfer y dudalen flaen, byrdwn y sylwadau bryd hynny hefyd oedd yr A470. Tynnu sylw yr oeddwn at Ymchwiliad Cyhoeddus oedd i'w gynnal yn y Pentref yng Ngwanwyn 1984 i farnu ar y cynlluniau cyntaf ar gyfer gwella'r A470 yn yr ardal. Roeddwn yn ceisio annog yr ardalwyr a defnyddwyr cyson o'r ffordd, i gefnogi'r cynlluniau arfaethedig trwy anfon gair at y Swyddfa Gymreig neu trwy bresenoli eu hunain yn yr Ymchwiliad a lleisio'u cefnogaeth yno. Dyma ychydig o ffeithiau o gyflwyniad y Swyddfa Gymreig ar gyfer yr Ymchwiliad - y rhan o'r ffordd i'w gwella oedd tua 2/3 milltir o Bont Arenig hyd at Minffordd, y gost tua £1 miliwn. Roeddent wedi trefnu arolwg trafnidiaeth yn yr ardal tros gyfnod o 16 awr ym mis Awst 1977 - cofnodwyd 3817 o gerbydau yn y cyfnod. Roeddent yn amcanu y buasai'r ffigwr hwn yn 6500 erbyn y flwyddyn 2000. Cafwyd canlyniad cadarnhaol yn yr Ymchwiliad, ac ers hynny mae dau gynllun wedi eu cwblhau'n llwyddiannus dros ben, y cyntaf o Bont Arenig i Finffordd a'r llall o Finffordd i Gancoed. Mae'r gwaith yn cydweddu'n arbennig gyda'r tirwedd naturiol. Cynlluniau wedyn yn cael eu cyhoeddi ar gyfer gwelliant cynhwysfawr o Bentrefelin hyd at Bont yr Afanc, agos i bum milltir. Pryder go iawn y tro hwn oherwydd, er i ganlyniad Cyfarfod Cyhoeddus arall fod yn gadarnhaol, doedd dim sôn am y cyllid i gychwyn ar y gwaith. Penderfynwyd cael yr ardalwyr at ei gilydd i ddwyn perswâd ar y Swyddfa Gymreig a'r Cynulliad i ryddhau'r arian o'r coffrau. Cafwyd cefnogaeth ryfeddol yn yr Ardal a chan gyfeillion y Blaenau. Ymgyrchu caled ond di-drais ar wahân i gymryd mantais o oleuadau traffig ger Cambrian tra roedd wal yn cael ei hatgyweirio! Dynion a merched, o bob oed o'r ardal, yn sefyll wrth y goleuadau, ym mhob tywydd, yn casglu llofnodion gyrwyr ar ddeiseb a chael cefnogaeth frwd ganddynt; llawer ohonynt yn ymwybodol iawn o'r tagfeydd di-ri a chyflwr gwael y ffordd. Yna Cadeirydd y Cyngor ar y pryd, Liz Roberts, yn cyflwyno deiseb ac arni dwy fil o enwau i Sue Essex o'r Cynulliad Cenedlaethol. Trwy hyn oll cafwyd cefnogaeth di duedd gan Elfyn Llwyd a Dafydd Elis-Thomas, bu i Lywydd y Cynulliad deithio drwy'r Dyffryn mewn lori y Brodyr Cawley i gefnogi'r ymgyrch! O'r diwedd cafwyd llwyddiant gyda Sue Essex yn cyhoeddi ei bod yn rhyddhau swm, nid bychan, o £17.5 miliwn ar gyfer y gwelliannau. Erbyn hyn, gyda gaeaf ffafriol y tu cefn iddynt, mae Cwmni Laing O'Rourke wedi gwneud marc go iawn, gyda llwybr newydd y ffordd i'w gweld yn amlwg mewn sawl man. Rhaid canmol y Cwmni am feithrin y cysylltiadau lleol, mae disgyblion Ysgol Dolwyddelan, aelodau o Gylch yr Ifanc ynghyd â'r Cynghorwyr lleol wedi eu tywys drwy'r Dyffryn i gael eglurhad manwl o'r hyn sy'n cymryd lle. Mae gwaith hynod o gywrain ar y waliau'n cael ei gwblhau gan Gwmni James o Gellilydan. Natur a'r amgylchedd yn cael sylw blaengar gan y Cwmni sydd i'w groesawu'n fawr. Mae'r Cwmni'n hyderus y byddant yn cwblhau'r gwaith o fewn tair blynedd.Felly, os am drefnu ymgyrch, dewch at Gynghorwyr ac ardalwyr Dolwyddelan, maent yn profi'r ddihareb "Dyfal donc a dyrr y garreg"! Nid oes enw awdur ar yr erthygl
|