Cafwyd dehongliad deallus a sensitif gan Dan - roedd yn gân addas iawn ar gyfer ei steil ef o ganu - ac mae'n sicr fod doniau Dan wedi helpu i ddenu'r pleidleisiau gan i'r gân ddod yn ail yn y gystadleuaeth.
Mae Dan yn brysurach nac erioed fel canwr ac mae 2006 yn argoeli i fod yn flwyddyn lwyddiannus iawn iddo.
Mae'n cyfansoddi'r rhan fwyaf o'i ganeuon ei hun ond cydweithiodd yn ddiweddar efo John Lawrence, cyn-aelod o'r grŵp Gorky's Zygotic Mynci, i recordio sengl newydd o'r enw Hwyr a fydd ar gael i'w lawr-Iwytho ar iTunes yn fuan.
O ganlyniad i'r recordiad daeth cais gan y rhaglen deledu Bandit i ffilmio fideo o'r sengl newydd a chafodd Dan y cyfle i ymweld a'r Alpau Ffrengig am y tro cyntaf.
"Roedd ymweld â'r Alpau yn brofiad gret" meddai, "ond bu bron imi ladd un o'r criw teledu wrth gyfnewid lle efo fo mewn ciw traffig ar y draffordd.
"Roedd y cynhyrchydd yn awyddus i fy ffilmio i'n gyrru'r car ond wrth inni gyfnewid lle dechreuodd y ceir symud a dyma finnau'n panicio a dechrau gyrru i ffwrdd yn wyllt gydag aelod o'r criw yn dal i sefyll yng nghanol y draffordd. Mi wyIltiodd ar y pryd ond daeth y digwyddiad yn destun chwerthin erbyn diwedd y dydd!"
Darlledir y fideo yn ystod cyfres nesaf Bandit ar S4C.
Mae Dan wedi ryddhau CDs unigol ac fel aelod o'r gr^wp Gabriel 25 ac mae ei albwm unigol cyntaf, a ryddhawyd ar label Crai, sef Dychwelyd ar werth ac ar gael o siop Bys a Bawd yn Llanrwst.
|