Ar y 13eg o Ionawr 2005, fel Clerc y Cyngor Cymdeithas lleol, cefais y fraint, ynghyd a Chynghorydd Sir yr ardal, Liz Roberts, ac Is Gadeirydd y Cyngor Cymdeithas, Edwin Noble, o fod yn bresennol yn agoriad swyddogol y cynllun gwelliant o Ddolwyddelan i Bont yr Afanc. Andrew Davies, y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth yn y Cynulliad ddadorchuddiodd y plac i gyhoeddi, ar fore hynod o braf, fod y ffordd ar agor. Roedd tyrfa luosog yno yn cynrychioli sawl cwmni ac asiantaeth fu'n gyfrifol am wahanol agweddau o'r gwaith.
Braf oedd cad sgwrs gyda hen gyfaill i'r Cyngor lleol, sef Wyn Thomas o Gwmni Wyn Thomas Gordon Lewis, Mr Thomas wedi gweithio ar ddylunio pob gwelliant yn yr ardal ers 1986. Cafwyd cwmni Yr Arglwydd Dafydd Elis- Thomas AC ac Elfyn Llwyd AS, y naill a'r llall wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau gwelliannau i'r ffordd.
Mae'r cynllun, y rhan olaf yn y jigso, yn gwireddu breuddwyd i'r ardalwyr a theithwyr cyson hyd y rhan yma o'r A470. Y gwelliant hwn hyd 4.5 milltir o'r ffordd, a'r gost - oddeutu £18miliwn. Braf oedd deall iddo gael ei gwblhau 5 mis yn gynnar!
Yr holl ymgyrchu lleol dros gyfnod o 21 mlynedd yn dwyn ffrwyth, ac ar ran y Cyngor Cymdeithas, carwn ddiolch o galon i'r holl ardalwyr a chefnogwyr pybyr am eu cefnogaeth brwd ac ymarferol hyd cyfnod hir o amser. Ar adegau cafwyd sawl cyfnod anodd, ansicrwydd, Ymchwiliad Cyhoeddus ARALL, pryder ynglŷn â rhyddhau cyllid ar gyfer y gwaith, ond drwy'r cwbl bu'r Cyngor Cymdeithas yn gweithredu'n gyson, gyda'r un neges.
RHAID cael y gwelliannau er gwella diogelwch ac uwchraddio'r ffordd i safon gydnaws a safonau cefnffyrdd cyfoes. Hyn i gyd er lles economaidd a chymdeithasol yr ardal.
Rhaid edmygu a chanmol y ffordd yr aethpwyd ati i gynllunio'r gwaith mewn ardal hynod o sensitif yn amgylcheddol. Yn amlwg, bu cynllunio, dylunio a rhaglennu manwl a gofalus dros ben. Buont yn ystyriol o'r tirwedd, amgylchedd a byd natur. Un enghraifft oedd y sylw anhygoel roeddent yn gymryd pan yn clirio tir, symud pridd i safle dros dro, ei farcio'n amlwg, yna dychwelyd y pridd i'w safle gwreiddiol.
Mae sawl un wedi cyfeirio at y gwaith ar y waliau sy'n ffinio'r ffordd, nid pawb sy'n eu hoffi, ond tybed oeddech chi'n ymwybodol fod pob ymdrech wedi'i wneud i arbed cerrig o'r waliau gwreiddiol a hefyd eu bod wedi defnyddio cerrig o chwareli lleol ym Mlaenau Ffestiniog? Mae'r waliau, ynghyd a'r holl waith tirlunio o'u cwmpas, bellach wedi cymryd eu lle ac yn cydweddu â'r tirwedd naturiol, tipyn o gamp.
Felly, mwynhewch y gyrru, yn sicr bydd eich taith yn rhwyddach, ac yn bwysicach fyth, yn fwy diogel.