Cafwyd gwledd o ganu a pherfformiadau llafar ag offerynnol a hyn yng ngofal eu hathrawes Mrs Ruth Owen. Cyflwynwyd y plant gan y Maer, y Cynghorydd J. Seth Roberts O.B.E. a pharatowyd paned gan Aelodau'r Pwyllgor Ty. Roedd plant Ysgol Llanddoged wedi bod yn llwyddiannus iawn yn Eisteddfod yr Urdd ym Margam a llawenydd oedd diolch i'r plant am eu hymdrechion yn ogystal ag ymroddiad eu hathrawon. Dymunwyd yn dda iddynt i'r dyfodol a da yw gweld diwylliant fel hyn ar ei orau a'r plant yn mwynhau perfformio ag yn rhoi o'u gorau. Diolch yn fawr iawn am roi cymaint o bleser i ni yn Abbeyfield. Ar y 18fed o Fehefin bydd gwibdaith i Blas Newydd, Ynys Môn ac ar yr 28ain o Fehefin 'Bore Goffi' am 10.30 12.30 o'r gloch. Yr Yrfa Chwist nesaf ar Medi'r 3ydd am 2.00 o'r gloch.
|