Menyw fach fyr oedd Mam-gu, ond yn gryf o gorff ac ysbryd. Roedd hi'n Gardi ac yn ferch i fwynwr plwm ac fe'i ganed yn 1875. Bu farw ei mam yn 38 oed ar enedigaeth plentyn arall pan oedd Mam-gu ond yn naw mlwydd oed. Bu rhaid iddi, er gwaethaf ei hoedran, ymadael â'r ysgol i ofalu am y cartref, gan fagu baban a dwy ferch arall yn ogystal â'i thad a'i brawd hynaf. Gwnaeth hyn yn Sir Aberteifi ac wedyn yng Nghwm Rhondda. Nes ymlaen bu'n gweithio am ysbaid fel morwyn a chogyddes mewn tŷ bonedd ac wedyn bu'n gweithio mewn gwesty.
Gwaith caled
Ni lwyddodd caledi ei bywyd i amharu naill ai ar ei dycnwch na'i hiwmor. Ar hyd ei bywyd bu mwy neu lai yn gaeth i ofynion ei galwedigaeth fel gwraig a mam. Yn ôl Mam, hi oedd y gyntaf i godi bob bore i sicrhau bod y gegin yn dwym a brecwast yn barod i'w gŵr a'r lodjyrs cyn iddyn nhw fynd ar sifft y bore yn y pyllau glo cyfagos. Wedyn, rhaid oedd rhoi brecwast i'r plant a'u danfon i'r ysgol cyn iddi droi at ei dyletswyddau yn y tŷ, y twlc moch a chyda'r ffowls. Er gwaethaf hyn, nid oedd yn gaeth ei meddwl a'i hysbryd. Mewn gwirionedd, hi oedd yn rheoli'r teulu fel rhyw brif weinidog tra bod ei gŵr, er ei holl sŵn, yn ddim mwy na theyrn cyfansoddiadol, er iddo gredu bob amser mai ef oedd yn gwneud y penderfyniadau.
Trodd bywyd y teulu yn llwyr o'i chwmpas hi a cheisiodd yn aml wneud penderfyniadau dros ei phlant a'i hwyrion hynaf, er i'w merched yng nghyfraith ymwrthod â'i rheolaeth. Achosodd ei hawdurdod un trasiedi mawr i'r teulu. Caewyd pyllau glo'r Cwm yn 1940 o ganlyniad i gwymp Ffrainc a bu rhaid i "Nhad fynd i weithio i Lundain. Aeth brawd ifancaf Mam i ganol Llundain ac yn y cyfamser, aeth y ddau frawd arall yn filwyr. "Rhaid i'm babi ddod adref!", meddai Mamgu. "Dwyf fi ddim yn barod i golli pob un." Gan fod y pyllau glo wedi ailagor, felly y bu. Ond cafodd y mab hwn ei ladd yn 1943 o ganlyniad i ddamwain yn y pwll, gan adael gweddw ifanc a mab blwydd oed. Yn eironig iawn, daeth y ddau arall adref yn ddiogel ar derfyn y Rhyfel yn 1945.
Cymwynaswraig
Roedd galw mawr am wasanaeth Mam-gu yn y strydoedd cyfagos fel bydwraig adeg geni ac i droi cyrff adeg marwolaeth. Gwnai hyn oll yn ddi-dâl. Hi hefyd oedd yr awdurdod lleol ar iechyd plant ac oedolion a bu'n nyrs i bawb. Cymerodd ran flaenllaw yn y ceginau cawl lleol a ddarparai fwyd i blant adeg streiciau 1922 a 1926. Byddai'n gweithio trwy'r nos i wneud ffrogiau newydd i'r merched ar gyfer Gymanfa'r Pasg neu er mwyn papuro ystafell ond byddai popeth yn ôl yn ei le erbyn amser brecwast glöwyr y teulu. Ni adawodd i unrhyw her fod yn drech na hi.
Soniai Mam yn aml am y tro pan oedd rhywbeth o'i le ar figwrn y mab ifanca' ac yntau ond yn flwydd neu ddwy oed. Cyhoeddodd y meddyg fod yr asgwrn yn afiach a dweud, "Dof yn ôl yfory i drefnu torri'r droed i ffwrdd". Ni chafodd yr un gair o ateb gan Mam-gu, ond wrth i bawb arall fynd i'r gwely, gofynnodd i'r lodjyr aros yn y gegin. "Does neb yn mynd i gael torri troed fy mab i ffwrdd," meddai. "Rwy'n gyfarwydd iawn ag esgyrn moch. Faint o wahaniaeth sydd rhwng asgwrn ac asgwrn?"
Rhoddodd frandi i'r un bach oedd yn cael ei ddal yn sownd gan y lodjyr. Cymerodd gyllell ac agor y migwrn gan dynnu allan asgwrn afiach tua modfedd o hyd a gwnio'r clwyf i fyny. Cyrhaeddodd y meddyg fore trannoeth i drefnu mynd â'r crwt i'r ysbyty. "Dim angen," meddai Mam-gu. "Mae popeth yn iawn. Rwyf wedi tynnu'r asgwrn ma's." "Beth wyt ti wedi ei wneud, fenyw. Fe gei di garchar!", gwaeddodd y meddyg. "Gad i mi ei weld!" Ond ar ôl archwilio'r migwrn, y cyfan a ddywedodd oedd, "Fyddwn i ddim wedi gwneud yn well fy hunan."
Iechyd Da
Fu Mam-gu erioed yn dost - dim pen tost, hyd yn oed. Aethpwyd â hi i'r ysbyty a hithau tuag 88 oed ond daeth trwy'r llawdriniaeth a'r niwmonia yn llwyddiannus. Fodd bynnag, doedd hi ddim yn gyfarwydd ag unrhyw wendid. Pan ddaeth adref o'r ysbyty, gwrthododd yn lân a chodi o'i gwely gan droi ei hwyneb at y wal i farw. Ond un diwrnod, wrth iddi sylweddoli bod iechyd rhai o'r plant yn ddrwg a bod gwaith ar ei chyfer, fe gododd a chafodd fyw am rai blynyddoedd.
Bu farw yn 94 oed yn 1967. Dilynodd ei gŵr i'r bedd a'r ddau yn gadael gwagle mawr ar eu hôl. Erbyn hyn, mae pob un o'u plant wedi marw. Minnau yw'r hynaf o'r wyrion o bell ffordd a'r unig un sy'n gwybod rhy¬wbeth am y dyddiau a fu yn y teulu.
Mae dwys genhedlaeth wedi mynd heibio a'u byd wedi diflannu gyda nhw, ond y rhain a'u cyfoedion greodd gymdeithas gadarn cymoedd y de gan adael i ni dreftadaeth i'w chadw a'i thrysori ac adeiladu arni yn ein tro.
Ein Stryd ni (rhifyn mis Medi 2007)
|