Ym mis Mawrth, ymunodd y ddau gôr i gyflwyno cyngerdd adeg Y Pasg, sef 'Croeshoeliad', Steiner ynghyd ag eitemau amrywiol eraill. Cynhaliwyd y gyngerdd lwyddiannus hon yn Eglwys San Ffagan, Aberdâr.
Yna, ym mis Ebrill ymunodd y côr â Chôr Cymysg Pontypridd mewn cyngerdd yn Eglwys Sant Luc, Rhydyfelin i ganu gwaith newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymro, Carl Jenkins. Yr unawdydd gwadd oedd Miss Iona Jones a ymunodd â'r corau i ganu 'Emyn y Pasg' o Cavelleara Rusticana.
Bu rhagor o gydweithio â phedwar côr arall ym mis Hydref, sef corau Pontypridd, Y Bontfaen, Aberpennar a Nelson. Y tro hwn perfformiwyd Requiem Verdi a'r unawdwyr oedd Eldrydd Cynan Jones, Geraint Dodd (ei phriod), Sioned Ellis a Gavin Davies. Cyfeiliwyd gan Gerddorfa Simffoni'r Rhondda o dan arweiniad arweinydd Côr Pontypridd, Mr Jeff Ryan. Aeth holl elw'r noson i gronfa Tŷ Hafan.
Hefyd eleni cynhaliodd y Côr noson o ganu noddedig lwyddiannus iawn ac mae'r aelodau am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ymarferol trwy gyfrannu a mynychu'r cyngherddau.
Fel arfer bydd y Côr yn cynnal Cyngerdd Nadolig a bydd honno ym Methlehem, Treorci, nos Iau, 22 Rhagfyr am 7 o'r gloch. Croeso cynnes i bawb.
|