O dro i dro bydd yr orsaf yn ymweld ag ardal arbennig a thro Treorci fydd hi'r mis nesaf. Y bwriad yw rhoi darlun o fywyd yr ardal i wrandawyr trwy ymweld â gwahanol sefydliadau a chwrdd â thrigolion y cylch. Ymhlith y pethau a drefnwyd yn barod mae Panel Chwaraeon o'r Clwb Rygbi pan gaiff yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau i banel o arbenigwyr. Disgwylir y bydd rhaglen boblogaidd Roy Noble hefyd yn cael ei darlledu o'r dref ac mae Eli Williams, trefnydd yr wythnos yn awyddus i glywed oddi wrth unrhyw fudiad sy'n awyddus i gymryd rhan. Bydd Neuadd y Parc yn ganolfan bwysig yn ystod yr wythnos a'r gobaith yw cynhyrchu drama gymunedol i'w darlledu oddi yno gyda phobl ifainc yn cymryd rhan. Os oes gennych syniadau, neu am gymryd rhan, cysylltwch â Jacqui Prosser ar (01443) 776920.
|