Pryd a ble y cawsoch chi eich geni?
Yn 1 Stryd Hermon, Treorci, 20 Mehefin, 1961. Dw i ddim yn siŵr pryd - ond efallai yng nghanol y nos!
Beth oedd cefndir eich teulu?
Cymysgedd o addysg a cherddoriaeth. Mam a Dad yn athrawon ac etifeddais fy ngallu cerddorol o'r ddwy ochr.
Ble cawsoch eich addysg?
Yn Ysgol Ynys-wen, Treorci ac wedyn yn Rhydfelen.
Oedd unrhyw athrawon yn ddylanwad arnoch?
Fel pawb a basiodd drwy Ynys-wen, mae'n amhosibl peidio a sôn am Meirion Lewis. Ac yn Rhydfelen, yr enwog Tom Vale!
Beth wnaethoch chi ar ôl gorffen eich addysg ffurfiol?
Cwympo i ddwylo'r diwydiant cerddorol rywsut. Atebais alwad ffôn i weithredu fel Cyfarwyddwr Cerdd i Theatr Crwban yn Aberystwyth. Deuddeg wythnos o theatr mewn addysg ac yn syth wedyn i gytundeb arall gyda Theatr Cymru. Digwyddodd hynny yn Hydref 1983 ac rwy'n dal i fyw bywyd freelance hyd heddi'.
Eich cartref a'ch teulu ar hyn o bryd?
Yn byw yn Yr Eglwys Newydd, Caerdydd gyda 'ngwraig, Lowri sy'n bennaeth ar yr Adran Ddrama yn Llanhari. Mae gennym dri o blant, Dyfed (15), Miriam (12) ac Aron (8) sy'n cadw `ngwallt yn wyn!
Ydych chi 'n dod nôl i'r Rhondda weithiau?
Ddim mor aml a hynny'r dyddie 'ma - ond mae'r croeso yr un mor frwd ag arfer pan fydda' i nôl.
Pryd a pham y dechreuoch chi ymddiddori mewn cerddoriaeth?
Yn ddiarwybod tra yn ifanc, siŵr o fod - cofio canu yn y capel / eglwys yn ifanc. Dw i'n credu i fi ddechre cael gwersi piano 'da Bryn Samuel yn saith mlwydd oed.
Beth yw eich gwaith nawr?
Rwy'n gyfarwyddwr cerdd a chyfansoddwr - ond fel y rhan fwya' o rieni erbyn hyn, yn yrrwr tacsi, cogydd a gŵr tŷ^ effeithiol hefyd.
Pa fath o gerddoriaeth ydych chi'n hoffi gwrando arni?
Dewis eitha eclectig a dweud y gwir. Popeth o ganu gwerin i gospel a jazz. Fy hoff gyfansoddwyr yw Endaf Emlyn, Delwyn Sion a Sian Aames yn y Gymraeg a Bruce Hornsby, Randy Newman a James Taylor yn yr iaith fain.
Pa ganghennau eraill o'r celfyddydau sydd o ddiddordeb i chi?
Rwy'n mwynhau'r theatr, yn enwedig theatr Americanaidd. A does dim fel clywed cerddorfa yn ei holl ogoniant.
Pa bobl ddiddorol rydych chi wedi dod ar eu traws drwy eich gwaith?
Bryan Davies, y cyfeilydd anfarwol o'r Rhondda, Stewart Jones yr actor, y diweddar Tich Gwilym (ffrind a chydweithiwr) a'r anhygoel Dewi Pws. Hefyd, teithio'r holl ffordd i Tokyo a chwrdd a chadeirydd Cymdeithas Cymry Japan... a darganfod ei bod wedi ei geni yn yr un strad â dad yn Y Pentre! Mae'r byd yn fach IAWN ar adegau!
Beth yw eich gobeithion mewn perthynas â'ch maes arbennig yng Nghymru?
Chwyldroad yn ymddygiad uchel swyddogion Canolfan y Mileniwm i' w gweld yn rhoi chwarae teg i artistiaid o Gymru. Hoffwn weld chwalu'r ddelwedd ystrydebol mai dim ond corau meibion a thelynau sy'n nodweddu ein diwylliant. Mae gennym lawer mwy i'w gynnig.
Beth ydych chi'n hoffi ei wneud yn eich amser hamdden?
Dilyn chwaraeon o bob math, yn enwedig rygbi, criced a phêl-droed Americanaidd. Dal i chwarae criced i'r capel - gobeithio mynychu'r cwrs golff yn fwy eleni! Rwy wrth fy modd yn ymlacio yn y gegin. Gwrandawr radio brwd.
Sut ydych chi 'n hoffi byw mewn dinas?
Ry'n ni'n ffodus i fyw mewn dinas sy'n fyrlymus ar hyn o bryd ac yn cynnig pob math o freintiau cymdeithasol. Mae hi hefyd yn gyfnod da i fod yn Gymro yn y ddinas. Mae mwy o deimlad cymuned bentrefol 'da ni yn yr Eglwys Newydd gan fod cynifer o Gymry o fewn ein milltir sgwâr. Mae'r plant yn cerdded i'r ysgol gyda'u ffrindiau'n ddyddiol. Mae Llwybr Taf / y Taff Trail yn ein galluogi i feicio i lawr i'r Bae. Digon o amrywiaeth.