Mae Mrs May Jenkins, Heol Glyncoli, Treorci yn 93 oed. Y mis hwn, mae hi'n rhannu rhai o'i phrofiadau a darllenwyr Y Gloran.
Dywedwch rywbeth am eich teulu
Ron i' n un o 10 o blant - 7 bachgen a 3 merch. Erbyn hyn, dim ond Ben (97 oed), sy'n byw yn Y Barri, a minnau (93 oed) sydd ar ôl. Daeth 'Nhad i Dreorci o Gwmsychbant, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin i weithio ym mhwll glo Abergorci a dilynodd ei frodyr ef, Ben a William i'r 'gweithie'. Un o'r Rhondda oedd Mam.
Roedd eich tad yn ddyn diddorol
Oedd. Cafodd e droedigaeth yn Niwygiad 04/05. Cyn hynny, bu'n smocio ac yn yfed ymhlith pethau eraill, ond ymaelododd yn Hermon adeg y Diwygiad a'r capel fu canolbwynt ei fywyd ar ôl hynny. Yno cafodd gyfle i ddatblygu ei ddiddordeb yn y ddrama a bu' n aelod o Gwmni Hermon a enillodd y brif wobr am actio drama yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli yn 1925.
Ond roedd yn flaenllaw yn y pwll glo hefyd
Oedd. Adeg streic 1926, fe gollodd ei swydd am feiddio siarad dros ei gyd weithwyr a dyna pryd y dechreuodd droi at arddio ar ei 'lotment ger y Pengelli i sicrhau bwyd i'r teulu. Roedd yn un o'r rhai ddechreuodd trefnu cegin gawl yn Ysgol Treorci a chael y bwtseriaid lleol i gyfrannu esgyrn a sborion cig er mwyn sicrhau bwyd i'r plant. Ond roedd rhaid i fi a fy mrodyr a chwiorydd fod ar ddiwedd y gwt bob tro rhag i neb
ddweud ein bod ni'n cael ein ffafrio!
Roedd bywyd yn galed
Oedd, wir. Pan ges i fy ngeni yn 1913, Mam oedd un o'r rhai cyntaf i dderbyn yr 2/6 gan Lloyd George ar em plentyn. Ond er iddi gael 10 o blant, dim ond ar gyfer un y gallai hi hawlio'r hanner coron! Nhad oedd llywydd olaf y Rechabiaid yn yr ardal ac roedd cymdeithasau elusengar o'r fath yn fendith i lawer o bobl yn eu tlodi.
Ydych chi 'n gweld Treorci wedi newid ryw lawer?
Newid? Dwi'n cofio'r hewlydd heb darmac arnynt a cheffylau yn hytrach na cheir yn mynd hyd-ddyn nhw. Byddai pobl yn taflu cols a lludw ar wyneb yr hewl a dw i'n cofio'r stablau y tu ôl i'r Lion yn llawn o geffylau ar noson waith. Roedd gof wrth ei waith ar waelod Stryd Senghennydd. Coop y Ton a Threorci, Peglers, Thomas & Evans a Melias oedd y prif siopau a byddai ceffyl a chart Thomas & Evans yn dod o gwmpas yn gwerthu pop bob nos Sadwrn.
Ond roedd y Sul yn bwysig?
Yn sicr. Doedd dim gwaith yn digwydd ar y Sul. Byddai'r bwyd i gyd wedi ei baratoi ddydd Sadwrn a byddem yn y capel dair gwaith, o leiaf. Byddai'r diaconiaid a'r gweinidog yn cynnal oedfa ragbara¬toawl cyn oedfa 10.30 ac wedyn ysgol Sul ac oedfa'r hwyr ym aml iawn, Ysgol Gân! Cerddorfa oedd yn cyfeilio yn Hermon a Howells yr Ysgolfeistr yn godwr canu ar y galeri.
Doeddech chi ddim yn cael chwarae ar y Sul.
Na, roedd rhaid inni fihafio. Rwy' n cofio imi unwaith gael chewing gum gan rywun a dechrau ei gnoi yn ystod oedfa'r hwyr. 'Oes rhywbeth yn dy geg?', gofynnodd Mam. 'Nac oes', atebais a cheisio cuddio fy mhechod! O'n blaen yn y capel, eisteddai Mrs Davies, Myrtle Grove, Y Pentre, ac am ei gwddf gwisgai boa ffwr crand. Yn slei fach, pan nad oedd Mam yn edrych, dyma fi' n cuddio'r gwm yng nghanol y ffwr, a doedd neb yn gallach!
Roedd rhywfaint o sbort yn y capel, felly?
Oedd. Ar ddiwrnod y Gymanfa, byddai plant Hermon yn ymgynnull o flaen y capel ac yn gorymdeithio trwy'r dref y tu ôl i faner yr Ysgol Sul. Roedden ni wrth ein bodd. Teimlem fel tywysogion! Ac roedd crefydd yn bwysig ar yr aelwyd. Feiddien ni ddim dechrau bwyta cyn i 'Nhad offrymu gras a byddem ni'r plant i gyd yn sefyll pe deuai gweinidog neu athro i'r tŷ^. Dyna rywbeth na welwch chi'r dyddiau hyn.
Mae eich teulu bron i gyd wedi byw yn hir. Beth yw'r gyfrinach?
Bwyd plaen da a gwaith caled! Roedden ni i gyd a'n ddyletswyddau yn blant a doedd dim maldod!