Un ymateb i'r argyfwng oedd mynd ati i sefydlu canghennau o'r Cymrodorion (sic) a'r Cymrygeiddion. Sefydlwyd cangen o'r Cymrodorion yn Nhreorci yn 1923 i hybu gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr ysgrifennydd cyntaf oedd J. Seymour Rees, gweinidog Hermon, a oedd yn llenor adnabyddus yn ei ddydd. Ffurfiwyd pwyllgor gwaith yn cynnwys 44 aelod yn cynrychioli 12 o gapeli'r cylch. Roedd y ffaith fod ymhlith yr aelodau 10 o weinidogion yn arwydd o nerth anghydffurfiaeth ac wrth i'r Pwyllgor benderfynu argraffu 800 o docynnau aelodaeth ar gyfer y tymor cyntaf ceir rhyw syniad o nerth yr iaith yn Nhreorci a Chwmparc. Un o aelodau'r pwyllgor oedd y Parch Fred Jones, gweinidog Bethania, tad-cu Dafydd Iwan, ac un o sylfaenwyr Plaid Cymru. Neilltuwyd 100 o docynnau i bobl ifainc dan 18 gan sicrhau bod lliw y rhain yn wahanol rhag i oedolion fanteisio ar y pris gostyngol! Pwysigrwydd yr Ifainc Yn wir, gwelwyd bod gwaith ymhlith ieuenctid yn hanfodol i ddyfodol y Gymraeg a bu'r Pwyllgor yn cynllunio arholiadau llafar ac ysgrifenedig ar eu cyfer. Yn ogystal, penderfynwyd bod angen sefydlu cangen o'r mudiad newydd, Urdd Gobaith Cymru yn y dref. Aeth ati hefyd i lunio rhaglen o 12 darlith i'w cynnal rhwng mis Hydref a mis Mawrth gyda dewis o dri siaradwr ar gyfer pob mis. Wrth edrych yn ôl, ni allwn ond rhyfeddu at restr y gwahoddedigion a oedd yn cynnwys Tegla Davies, yr Athro Ifor Williams, Syr Ben Bowen -Thomas, Dyfnallt, Crwys a'r Dr Vaughan Thomas, y cerddor. Erbyn 1924-5 y dewis cyntaf i draddodi darlith agoriadol y tymor oedd neb llai na David Lloyd George! Nodir yn y llyfr cofnodion fod y Gymdeithas i dalu ffi o £2 a'r costau ffordd fyrraf i fynd a dod" ! Hybu'r laith Rhag i neb gyhuddo'r aelodau o fod yn dynn, dylid nodi eu bod, erbyn Eisteddfod Genedlaethol Treorci yn 1928 yn cynnig gwobr o £20 am draethawd beirniadol ar y testun, 'Bywyd ac Athrylith Ben Bowen'. Y Cymrodorion hefyd oedd yn gyfrifol am sicrhau cofeb i'r bardd. Nid darlithiau oedd yr unig arlwy a ddarperid. Trefnwyd dadleuon cyson yn erbyn cymdeithasau eraill y Rhondda gyda Gower Thomas yn cynrychioli Treorci yn bur amI. Hefyd ym 1927 trefnwyd noson o ddramâu adeg Gŵyl Dewi gyda phlant Ysgol Gynradd Treorci yn perfformio yn yr egwyl. Gwerthwyd 500 o docynnau ar gyfer yr achlysur hwn. Ceir yr holl wybodaeth yma o lyfr Cofnodion y Cymrodorion rhwng 1923 - 1930. Ymddengys i'r Gymdeithas ddirwyn i ben yn 1930 oherwydd diffyg cefnogaeth y capeli ond erys ei chofnodion yn ddrych o gyflwr yr iaith yn y cyfnod - cyfnod o ddirwasgiad a adawodd ei ôl ar fywyd economaidd a diwylliannol y Cwm fel ei gilydd.
|