Bwriad y gystadleuaeth yw anrhydeddu gwir arwyr de Cymru, sef y rhai sy'n rhoi o'u hamser, eu hegni a'u sgiliau yn wirfoddol at wasanaeth eu cymunedau. Dyna, yn sicr, ddisgrifiad perffaith o waith y pedair ffrind - Margaret Harvey, Eirlys Lewis, Ann Thomas a Nancy Yeo - sydd yn ystod y tair blynedd diwethaf wedi codi £60,000 a'u rhoi i dros 40 a achosion da lleol. Daw'r holl arian o nwyddau a roddir i'r siop ac a werthir wedyn am brisiau rhyfeddol o isel. Felly, nid yr achosion da yn unig sy'n elwa arni, ond hefyd pawb sy'n troi i mewn i chwilio am fargen. Roedd y lle yn gynnwrf i gyd pan alwodd ffotograffydd Y Gloran a minnau heibio - pob cwsmer yn llongyfarch y siopwragedd ac yn holi am y seremoni wobrwyo yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd pan ddaeth nifer o enwogion at ei gilydd i ddathlu camp yr enillwyr. Roedd llond lle o bobl yn y siop, fel pob amser; fan hyn, mam ifanc yn prynu dillad i'w babi, fan draw dyn mewn oed yn bwrw golwg dros y silffoedd llyfrau. Yna daeth cwpl i mewn a dwy sachaid o deganau oedd y nesaf peth i newydd ac a wnaiff sawl plentyn yn hapus fore dydd Nadolig. A phob un ohonynt yn canmol, pob un yn llawenhau yn y llwyddiant oherwydd, wedi'r cwbl, eu siop nhw yw hi - Siop y Gymuned. Anne Brooke
|