Yn fuan, daeth yn amlwg i bawb fod ganddo wybodaeth anhygoel am fwynau mwyngloddio a chyn bo hir roedd perchnogion pyllau fel Deep Dyffryn, Navigation ac eraill yn ymgynghori ag ef cyn dechrau eu suddo. Daeth yn fwyfwy poblogaidd wrth i'r bobl hyn elwa'n fawr ar gorn ei gyngor. Roedd gan Ardalydd Bute ffydd mawr yng ngallu Mr Clark a rhannwyd honno gan ymddiriedolwyr ei ystâd wedi iddo farw. Syfrdanodd W.S.Clark fyd masnachol Cymru pan ddywedodd ei fod yn hyderus bod glo stêm i'w gael yng Nghwm Rhondda ond aeth ymddiriedolwyr ystâd Bute ati ar unwaith i brynu tir yng Nghwmsaerbren yn rhan uchaf Rhondda Fawr. Bu rhai yn amau doethineb y penderfyniad gan broffwydo yr âi'r ardalydd ifanc i'r wal os mynnai ei ymddiriedolwyr wastraffu ei arian i fodloni chwiw Mr Clark. Llwyddodd y feirniadaeth negyddol hon i ffrwyno brwdfrydedd yr ymddiriedolwyr ac am beth amser ni wnaed dim. Yna hysbysebodd Cwmni Rheilffordd Dyffryn Taf yn y Cardiff and Merthyr Guardian yn 1850 yn cynnig 500 punt i unrhyw un a suddai pwll at ddyfnder o 120 llath yn Rhondda Uchaf er mwyn profi a oedd glo stêm. Dyna'r sbardun roedd ei angen ar Mr Clark ac ymddiriedolwyr Ardalydd Bute. Er gwaethaf diffyg heolydd, cludwyd y peiriannau a'r offer angenrheidiol i Gwmsaerbren. Yno yn 1855, suddwyd dau bwll a ffeindiwyd glo stêm ond pum llath yn is na'r disgwyl. Ar 17 Rhagfyr 1855 cludwyd y llwyth cyntaf o lo o rannau uchaf Rhondda Fawr i Gaerdydd ar hyd lein sengl a agorwyd gan Gwmni Rheilffordd Dyffryn Taf. Bu farw W.S.Clark yn 1864 ac mae ei fedd ym mynwent Cefn, Merthyr. Selwyn Davies
|