Ym mis Medi bydd Sarah o Gelli Aur, Pengelli, yn dechrau ar y dasg o wireddu'r freuddwyd honno trwy ddechrau ar gwrs BA yn Academi Gelfyddydau Theatr Mountview yn Llundain, meithrinfa llawer o sêr y theatr.
Cerddoriaeth yw un o brif ddiddordebau Sarah sy'n chwarae'r ffidil yng ngherddorfa'r ysgol ac wedi llwyddo yn ei arholiadau piano at radd 8. Ond er ei gallu offerynnol, canu sy'n mynd â'i bryd yn bennaf.
Yn ddiweddar enillodd yr ail wobr o £250 yng Ngŵyl Coleg y Drindod, Caerfyrddin ac ers iddi fod yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Treorci cafodd gyfle i ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau gan gymryd rhan Truvy yn Steel Magnolias, Eponine yn Les Miserables'ac Eliza Doolittle yn My Fair Lady.
Mae Sarah hefyd wedi bod yn weithgar gyda rhai o'r cwmniau opera lleol. Cymerodd rhan Dorothy yng nghynhyrchiad Cwmni Selsig o'r Wizard of Oz a chwaraeodd Peter yn Peter Pan, Fantine yn Les Miserable a Jennifer yn The Witches of Eastwick, tair o sioeau Grŵp Theatr Spotlight.
O'r holl rannau hyn, ei ffefryn yw Eliza Doolittle.
"Golygodd dysgu'r rhan hon waith caled iawn, ond fe ddysgais lawer am theatr gerdd," dywedodd. "Mae cymeriad Eliza'n gymhleth a chefais gyfle i gyfuno sgiliau actio, dawnsio a chanu i sicrhau perfformiad cyflawn."
Newydd sefyll ei harholiadau Safon A mewn daearyddiaeth, cerddoriaeth a drama mae Sarah ac yn ddiweddar llwyddodd yn arholiad safon arian RADA. Ei huchelgais yw gweithio mewn theatr gerdd a chael cyfle i berfformio yn West End Llundain ond yn y pen draw carai ymddangos mewn cynyrchiadau sioeau cerdd yma yng Nghymru.
|