91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gloran
Clive Williams a'i waith Clive Williams - Arlunydd a Cherflunydd
Hydref 2004
Hanes gyrfa'r arlunydd a cherflunydd Clive Williams yn wreiddiol o Dreorci.
Ganed Clive Williams yn un o bump o blant Ivor ac Eluned Williams, Stryd Illtyd, Treorci. Ar ôl ei addysgu yn Ysgol Gynradd Treorci ac Ysgol Ramadeg y Pentre, aeth i Goleg Celf. Ar ôl gorffen ei gwrs, ceisiodd wneud bywoliaeth fel arlunydd yn peintio nifer o bortreadau a derbyn comisiynau am ddarluniau a cherfluniau.

Pan benderfynodd Clive a'i ddarpar-wraig, Neen, briodi, cafodd swydd yn dysgu celf yn Llundain, ond yn fuan dychwelodd i'r Rhondda i ddysgu celf yn Ysgol Gyfun Treorci o dan bennaeth yr adran yno, David Rees. Yn ystod y cyfnod hwn, daliodd ati i beintio yn ystod penwythnosau a gwyliau ysgol.

Seland Newydd
Yn Ionawr 1967 ymfudodd Clive a'i wraig i Seland Newydd pan benodwyd ef yn bennaeth yr Adran Gelf yn Ysgol Uwchradd Kamo, Whangarei. Pheintiodd e ddim un darlun ar ôl hyn gan iddo roi ei fryd ar gerflunio. Yn 1968 bu'n arddangos cyfres o gerfluniau pren gan gynnwys 'Tad a Mab' a 'Chwaraewr Rygbi a Phêl' ymhlith eraill. Yn ddiweddarach, arddangosodd nifer o weithiau gyda 22 o artistiaid eraill. Y brif eitem oedd cerflun o ferch, 1.4 metr o uchder.

Yn ystod ei fywyd creodd nifer o gerfluniau i gynghorau dinesig ac i fusnesau gan gynnwys purfa olew ac mae'r rhain i'w gweld yn Seland Newydd hyd heddiw. Roedd Clive wrth ei fodd yn arbrofi gyda gwahanol gyfryngau. Er enghraifft, gwnaeth gyfres o gerfluniau seramig, dro arall cerflun efydd o blymwyr môr a byddai yn ei elfen yn gweithio ar brosiectau mawr.

Yn wir, ychydig cyn iddo gael ei ladd mewn damwain, roedd e wedi cyflwyno braslun o gerflun i Lysoedd Barn Whangarei. Roedd gweinyddwyr y Llys wrth eu bodd â'r syniad a gofynnwyd i Grant, mab Clive, sydd hefyd yn gerflunydd, a fyddai ganddo ddiddordeb mewn datblygu syniad ei dad. Naw mis yn ddiweddarach, enillodd Grant y comisiwn.

Mae'r cerflun ar lun hwyl long enfawr yn cynrychioli'r math o ganŵ^ teithio a ddefnyddid gan frodorion Seland Newydd bellach yn Amgueddfa Llundain, Whangarei.

Mae llawer o waith Clive i'w weld yn Seland Newydd ac yng Nghymru ac yn ei gartref mae cyntedd sydd hefyd yn oriel gelf lle y mae'r teulu'n dal i arddangos ei waith.

Mae papur bro Y Gloran yn ddiolchgar i Neen Williams Daw, gweddw Clive ynghyd â'i fab am y lluniau a llawer o wybodaeth am ei waith a'i yrfa.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý