Ein Diwrnod Darllen, gan Jade Hughes
Ddoe, cawson ni ddiwrnod darllen noddedig yn ein dosbarth ni. Yn y bore casglodd Mrs Llywelyn-Williams yr arian i mewn. Darllenodd pawb eu hoff lyfr. Darllenais i "Angus" Cafodd ei ysgrifennu gan Louise Rennison. Yn y llyfr mae cath o'r enw Angus. Mae chwaer gan Georgia o'r enw Libby. Mae Libby yn rlhoi dillad ar Angus, y gath flewog. Mae'n ddoniol.
Ar ôl amser chwarae roedden ni'n gallu gwneud chwilair neu ddarllen cylchgrawn. Yn y prynhawn roedden ni'n gallu dewis gwneud model neu fwgwd allan o'r llyfr. Gwnes i y gath flewog! Defnyddiais binc am ei thrwyn a'i thafod. Gwnes i goron gyda glitter arian. Gwnes i briodas i Angus. Defnyddiais bapur clir am 'veil.
Mwynheais y diwmod yn fawr. Codon ni £175 ddoe. Ein targed oedd £300. Rwy'n edrych ymlaen at gael ein llyfrau newydd.
Dyma'r hyn a ddywedodd rhai o'r plant fel rhan o'u gwerthusiad:-
"Rydw i eisiau ddoe i fod yn heddiw a heddiw i fod yn ddoe!"
Chloe Evans
"Darllenais i lyfr ffeithiol am, ie! Doctor Who! Mwynheais sut gymaint. Darllenais 5,000, ie 5,000 o eiriau! Wow am ddiwrnod grêt!"
Matthew Hopes
|