91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gloran
Siop Hen fusnes yn newid dwylo
Hydref 2007
Bydd pawb sydd wedi manteisio ar fedrusrwydd a chyngor da'r fferyllydd, Bryan James, yn drist o glywed am ei ymddeoliad o'r siop yn Heol Ystrad.

Ers dros 23 blynedd bu Mr James yn hollol ymroddedig wrth ein gwasanaethu ni yn Y Pentre. Doedd "dim byd yn ormod o drafferth iddo!" fel y dywedodd un o'i gwsmeriaid cyson.

Pan ddechreuodd e ar ei waith, wrth gwrs, roedd fferyllwyr yn cael dyfeisio eu meddyginiaethau a'u moddion eu hunain. Daeth rhai o'r rhain yn adnabyddus iawn, fel Lewis' Drops a ddyfeisiwyd, mi gredaf, gan fferyllydd o Ystrad Rhondda. Yn yr un traddodiad, rwy'n cofio'n dda foddion pinc o eiddo Bryan James o'r enw 'The Mixture' a oedd jyst y peth am roi trefn ar stumog ansefydlog.

Cynnal Traddodiad
Roedd Bryan mewn olyniaeth dda wrth etifeddu siop y diweddar Tom Hay. Roedd y bonheddwr hwnnw yn uchel iawn ei barch yn yr ardal ac yn barod iawn ei gymwynas ar bob adeg. Roedd gan Tom ambell gymysgedd tra effeithiol at wahanol anhwylderau ac mae'n debyg ei fod e yn ei dro yn dilyn ei ragflaenydd, Mr George, yn hyn o beth.

Wrth fynd i mewn i'r siop bresennol enw George a welwch chi ar stepen y drws o hyd. Wrth edrych ar y lle o'r tu fa's, does dim byd ar wahân i hynny sy'n eich taro'n arbennig. Ond y fath newid wrth ichi gamu dros y rhiniog! Mae'r holl gypyrddau a drôrau yn union fel yr oeddynt yn yr oes a fu - y pren yn sgleinio a'r drôrau i gyd yn dwyn enwau'r gwahanol gemegolion. Mae'n amgueddfa fyw ac yn rhywbeth i'w drysori.

Perchnogion Newydd
Yn sicr, byddwn yn gweld eisiau Bryan a dymunwn yn dda iddo yn ei ymddeoliad ond rydym yn ddyledus iddo am drefnu bod tîm arbennig o alluog a phrofiadol wrth law i gynnal y busnes. Roedd y tri ohonynt, sef David Williams, fferyllydd yn Ferndale ac Adam Jenkins (o'r Porth yn wreiddiol) a'i wraig, Tracey wedi gwerthu eu busnesau yn ddiweddar a "hanner ymddeol'.

Bwriad y naill oedd mentro ar ffarmio tra bod y llall am gadw ceffylau. Ond llwyddodd Bryan i'w perswadio i ymuno â ni yma yn y Pentre lle nad oes amheuaeth y cân nhw groeso brwd. Wrth ddymuno'n dda iddynt, rydyn ni, drigolion yr ardal yn ymwybodol y byddan nhw'n cynnal traddodiad sy'n ymestyn yn ôl i ddechrau'r ganrif ddiwethaf.

Dr. Anne Brooke


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý