Hedfan nôl i Buenos Aeres o Gallegos a dweud ffarwel wrth Illtyd, John a Charlie. Roedd y daith ar ben iddyn nhw ond antur ar fin dechrau i mi gan fy mod wedi trefnu hedfan lawr i Drelew a'r Wladfa! Beth fyddai'n fy nisgwyl? A fyddwn yn cael fy siomi? Cyn mynd ar fy ngwyliau roeddwn wedi cysylltu a menyw o'r enw Mrs Evans yn y Gaiman ac roedd hi wedi trefnu gwesty ar fy nghyfer yn y pentref. Roddodd gyfarwyddyd imi gwrdd â hi yn union ar ôl cyrraedd y Gaiman.
Ar yr awyren ar y ffordd i Drelew bûm yn ceisio gwrando am sŵn yr iaith Gymraeg, ond ymddangosai taw fi oedd yr unig Gymro yno er bod 'na ddigon o Almaenwyr. Mae fel petai'r rheiny yn mynd i bobman! A dweud y gwir, roeddwn yn teimlo braidd yn ddiflas ac yn unig. Ond cododd fy nghalon ryw dipyn wrth gamu i'r tarmac yn haul tanbaid Trelew a gweld dros fynediad yr `Arrivals' y Ddraig Goch yn chwifio yn y lle mwyaf amlwg gyda'r gair 'Croeso' odditani.
Gelwais dacsi a daeth y gyrrwr allan i nôl fy mag. 'Siarad Cymraeg?, gofynnais yn obeithiol. 'Ydw, tipyn bach', atebodd yn syth! Cymry Cymraeg oedd rhieni'r gŵr ond dim ond ychydig o'r iaith y siaradai ef. Digon, fodd bynnag, i'm tywys i dŷ Mrs Evans yn y Gaiman, tref fechan tua 15 milltir o Drelew. Fel mae'n digwydd, roedd e' n perthyn o bell.
Dylanwad y Cymry
Wrth adael Trelew, tref heb lawer o ôl dylanwad y Cymry arni, a chyrraedd y Gaiman, gallwn weld bod fy nghydwladwyr wedi cael dylanwad mawr ar y dref hon. Enwau Cymraeg oedd ar y strydoedd ac arwyddion Cymraeg ynghyd â'r Sbaeneg y tu fa's i lawer o'r siopau. Gwestai ag arwyddion Cymraeg! Roedd hyn yn llawer mwy gobeithiol. Ces groeso arbennig gan Mrs Evans a oedd wedi paratoi te traddodiadol Cymreig i mi - bara brith, galwyni o Glengettie a hen degell du yn berwi ar y tân a losgai, er gwaetha'r gwres, ar yr aelwyd. Roedd Cymraeg Mrs Evans yn gaboledig. Siaradai'r iaith ag acen Sbeinig ond roedd yn gywir iawn heb unrhyw arwydd o 'slang' Saesneg sydd mor amlwg yn ein hiaith ni!
Roedd gan Mrs Evans weinidog o Aberystwyth, Adrian Williams, yn aros gyda hi. Roedd e wedi bod i Peru gyda'r Cyngor Eglwysi ac wedi galw yn y Wladfa er mwyn llywyddu mewn Cymanfa Ganu a Phregethu yn y Gaiman ar y Sul. Cyn ymadael â chartref Mrs Evans, cefais gyfle i sgwrsio ag ef ac addewais i fynd i wrando arno'n pregethu yn y capel nos Sul.
Gweld y dref
Aeth Mrs Evans â fi ar daith o gwmpas y Gaiman. Gelwais yn yr amgueddfa a chwrdd â hen ddynes yno a edrychai ar ôl y lle. Roedd hi'n perthyn i deulu bachgen oedd yn gyd-ddisgybl â fi yn Ysgol Rhydfelen. Hen fyd bach ac aeth hi â fi i'm gwesty, 'Dyffryn Gwyrdd' yn ei hen Renault 5. Caeais fy llygaid ar y daith wrth iddi yrru trwy gyffyrdd heb arafu. Roedd yn amlwg na wyddai beth oedd indicator neu frêc! Diolchais iddi am ei charedigrwydd a gadael y car yn ddiolchgar gan addo cwrdd â hi yn y capel y diwrnod canlynol. Roedd perchennog y 'Dyffryn Gwyrdd' yn Sbaenwr lleol a oedd yn dysgu Cymraeg yn yr Ysgol Nos.
Y noson honno es i fwyty yn y stryd fawr yn y Gaiman a chael swper ardderchog am bris rhesymol iawn - rhyw £6 gan gynnwys gwin! Roedd y weinyddes yn Gymraes ifanc o'r Wladfa a fu ar gwrs iaith yn Llanbed haf diwethaf. Bûm yn sgwrsio'n hir â hi a synnu at loywder ei hiaith. Y peth mwyaf anhygoel oedd bod Cymraeg cystal gan y bobl yno ond heb fod ganddynt air o Saesneg. R'yn ni'n disgwyl i bob Cymro fedru Saesneg, ond De'r Amerig oedd hon a Sbaeneg oedd iaith y wlad.
Ystyria'r bobl eu hunain yn Archentwyr yn bennaf ond a chariad mawr at Gymru, 'Yr Hen Wlad' ac wedi cadw ei gwerthoedd a'i thraddodiadau gorau. Roeddwn yn sylweddoli pa mor arbennig oedd y bobl yma. Roedd 'na filoedd wedi ymfudo i Batagonia o'r Eidal, Ffrainc a Gwlad Pwyl, er enghraifft, ond neb wedi cadw eu traddodiadau a'u hiaith yn fyw fel y Cymry.
Rhaid cofio bod Patagonia'n lle enfawr. Dim ond rhyw 100 milltir sgwâr yn nyffryn Afon Camwy a'r pentrefi ar hyd y dyffryn, ynghyd a Chwm Hyfryd ryw 500 cilometr i ffwrdd, a sefydlwyd gan y Cymry. Ond mae'r bobl yma wedi cadw eu cymdeithas unigryw yn fyw er 1865 a rhaid eu hedmygu am hynny. Maent wedi creu gwerddon gyda choed a chaeau o gwmpas Afon Camwy.
Porth Madryn
Y bore canlynol daliais fws i Puerto Madryn, tref fach glan môr lle y glaniodd y Cymry gyntaf cyn sefydlu'r Wladfa. Roedd yno gofgolofn wedi ei chodi yno i gofio'r glaniad a'r dref yn un hyfryd gyda gwestai crand, tai bwyta a thraeth godidog. Yno ar y prom ryw ddecllath o'r traeth mae'r gofgolofn ysblennydd yn nodi achlysur y glaniad. Wrth sefyll yno roeddwn yn teimlo'n falch o fod yn Gymro.Rhywbeth arall a'm gwnaeth yn hapus oedd y newid yn agwedd y Sbaenwyr lleol unwaith y sylweddolent eich bod yn Gymro. 'A,si - Galles!' Wrth eistedd yn y tŷ bwyta ar y traeth yn yfed potelaid o ddŵr oer a phlataid enfawr o squid a salad (a gostiodd £4!) yn yr haul tanbaid, roeddwn ar ben fy nigon. Ond rhaid oedd brysio nôl i Gapel Bethel yn y Gaiman ar gyfer oedfa'r hwyr!
Y Capel
Roedd yno gynulleidfa deilwng iawn o ryw hanner cant o bobl gan gynnwys 5 o blant. Testun pregeth Adrian Williams oedd y 'bedd gwag' ac adroddodd stori ddifyr i'r plant. Wedi'r oedfa fe'm gwahoddwyd nôl i'r festri am ragor o Glengettie, brechdanau a'r crwsts wedi eu torri bant, cacennau hyfryd a chroeso bendigedig. Cwrddais ag athrawes o Gaerdydd oedd yno am flwyddyn yn dysgu Cymraeg yn yr Ysgol Feithrin leol. Mae adfywiad wedi bod yn nhynged yr iaith yn y Wladfa gydag 800 o bobl rhwng 2 oed hyd at 80 oed wrthi' n dysgu Cymraeg. Roedd Mari, yr athrawes yn derbyn cyflog o £100 yr wythnos a thŷ yn rhad ac am ddim. Gellir byw fel brenhines yn y Wladfa ar £100 yr wythnos gan fod popeth mor rhad. Roedd pawb am wybod o ble roeddwn yn dod ac ar ô1 deall taw brodor o'r Rhondda oeddwn i, dywedodd un wraig fod ei theulu wedi ymfudo i'r Wladfa o Dreherbert!
Y bore canlynol, treuliais yr amser yn crwydro o gwmpas y Gaiman ac edrych ar rai o'r Tai Te niferus. Mae'r rhain yn enwog yn Ariannin a rhaid i bob ymwelydd brofi eu danteithion sy' n eithaf tebyg i `Devon Cream Tea'. Cefais ginio gyda Mrs Evans cyn dychwelyd i Drelew i ddal awyren i Buenos Aires a dechrau ar gymal olaf y daith adref. Y trueni mwyaf oedd taw tri diwrnod yn unig ges i yn y Wladfa yng nghwmni'r bobl hynod o groesawgar hyn. Dim ond crafu'r wyneb wnes i. Y tro nesaf af i, (ac fe fydd tro nesaf), fe dreuliaf o leiaf wythnos yn eu cwmni.
Gan Islwyn Jones