Un o weriniaethau'r hen Undeb Sofietaidd yw Kalmykia, ac mae'n mynd yno o dan nawdd Menter Darwin sydd wedi rhoi arian i Goleg Imperial, Llundain i wneud y gwaith ymchwil.
Ers i'r Undeb Sofietaidd chwalu yn y nawdegau gwelwyd lleihad o 95% yn niferoedd y Saiga. Gynt bu llywodraeth Rwsia yn gwarchod yr anifail hwn sy' n mudo ar draws y Steppe mor bell â Tseina. Byddai gwarchodwyr yn teithio gyda nhw ar eu hynt, ond pan beidiodd y gwasanaeth hwn, aethant yn brae i helwyr oedd yn eu lladd am eu cig, eu cyrn ac am rannau o'u cyrff a ddefnyddir ym meddyginiaethau traddodiadol Tseina. Bellach, does ond 50,000 ar ôl ac mae'r Saiga ar restr o anifeiliaid sydd mewn perygl o ddiflannu'n llwyr.
Gwneud ffilm
Mae Rosa Baik, 29 oed, yn ogystal â bod yn sŵolegydd o ran hyfforddiant hefyd yn wneuthurwr ffilmiau. Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Leeds, enillodd radd uwch ym Mhrifysgol Casnewydd ac roedd ei ffilm am ferlod ar Fannau Brycheiniog yn un o bedair a enwebwyd ar gyfer Wildscreen 2002 gan y 91Èȱ¬.
Roedd y tair ffilm arall gan gystadleuwyr o Norwy, India a'r Unol Daleithiau oedd yn ymgiprys am wobr 91Èȱ¬ Newcomer. Bydd Rosa yn gobeithio gwneud ffilm am y cynllun yn Kalmykia a bydd tri o'r wlad honno yn ymweld â Phrydain yn rhan o'r prosiect.
Yn ddiweddar, cafodd hi newyddion da y bydd Cymdeithas Edward Llwyd, cymdeithas naturiaethwyr Cymru, yn cyfrannu £300 tuag at gostau'r ffilmio a bydd Rosa yn cael cyfle i arddangos ei gwaith yng nghynhadledd flynyddol y
Gymdeithas yn 2007 neu 2008.
Dymunwn yn dda iddi ar ei hantur ac edrychwn ymlaen at glywed rhagor ganddi am y daith gyffrous hon.
|