Unwaith eto, llwyddodd tîm Siarad Cyhoeddus Ysgol Gyfun Cymer Rhondda i ennill Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus a drefnir yn flynyddol gan y Clwb Rotari. Dyma'r pedwerydd tro i dîm o'r Cymer ennill y wobr am y tîm gorau yng Nghymru yn y gystadleuaeth gyfrwng Cymraeg. Dechreuodd y daith yn Ysgol Gyfun Plasmawr ddechrau mis Tachwedd, pan gystadlodd y tîm yn erbyn 9 o ysgolion eraill yn y rownd gynderfynol. Cafwyd llwyddiant mawr y noson honno, gyda Thomas Tudor Jones yn cipio'r wobr am y cynigydd gorau, a Kate Holvey, y cadeirydd, a Lewis Lloyd, y gwrthwynebydd, yn cael eu henwi ymysg y goreuon yn eu categorïau nhw hefyd, yn ôl y beirniaid. Ar y pumed ar hugain o Dachwedd, fe deithiodd y tîm, ynghyd a'u cefnogwyr di-ri i lawr i Fae Caerdydd, i gystadlu yn y Rownd Derfynol. Braint oedd cael cystadlu yn Nhŷ Crughywel, cartref cyntaf Cynulliad Cymru, yn enwedig o ystyried y pwnc oedd yn cael sylw'r tîm, sef "Breuddwyd ffŵl yw Cymru Rydd." Cafwyd gwledd o drafod yn ystod y prynhawn, gan dimoedd o Ysgolion Bro Myrddin, y Fro, Preseli, Bryn Tawe, a Llanbed. Rhoddwyd canmoliaeth fawr i bob tîm gan Gadeirydd y Beirniaid, Sulwyn Thomas, ac roedd panel y beirniaid i gyd yn gytûn mai Ysgol y Cymer oedd y tîm buddugol ar y diwrnod. Enwyd Kate Holvey yn gadeirydd gorau'r diwrnod, a Thomas Tudor Jones y cynigydd gorau. Daeth Lewis yn ail yn y
gystadleuaeth am wrthwynebydd gorau'r diwrnod. Yn ogystal â hyn, cipiodd Thomas y wobr am siaradwr gorau'r gystadleuaeth, gan sicrhau bod y darian honno'n dychwelyd i Ysgol y Cymer unwaith eto.
Mae'r tîm yn hapus iawn i orffen eu gyrfa ysgol ar nodyn mor llwyddiannus, ac yn dymuno pob hwyl i siaradwyr y dyfodol sydd â'r dasg anodd o geisio parhau â'r traddodiad hir sydd gan yr Ysgol bellach yn y maes hwn! Hoffai'r tîm ddiolch i bawb fu'n cefnogi yn ystod y gystadleuaeth, yn arbennig Clwb Rotari'r Rhondda am bob cymorth a chefnogaeth.
|