Mae gan yr ysgol draddodiad cryf o lwyddo yng nghystadlaethau siarad cyhoeddus ar lefel sirol ac yn wir, ar lefel genedlaethol. Llynedd, Ysgol Gyfun Cymer Rhondda oedd yr ysgol Gymraeg gyntaf erioed i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth siarad cyhoeddus Prydain ac Iwerddon y Rotari trwy gyfrwng y Saesneg. Llwyddodd y tîm hefyd i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth Gymraeg y llynedd a churo sawl tîm o dde Cymru. Mae'r siaradwyr huawdl yn gyfarwydd ag ennill rhai o brif wobrau'r gystadleuaeth; llynedd fe ddaeth tarian 'Prif Siaradwr' yr Ŵyl yn ôl i'r Cymer yn ddiogel yn nwylo Timothy Lloyd, sydd bellach yn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Llundain a Hannah Williams, sydd erbyn hyn yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe, enillodd wobr 'Gwrthwynebydd y Noson'. Prif fechgyn yr ysgol, Alun Williams ac Owain McKimm a disgybl Blwyddyn 10, Daniel Owen, oedd cynrychiolwyr y Cymer eleni. Ar ôl llwyddo i guro wyth tîm arall o Rhondda Cynon Taf yn y rownd gyntaf yn Ysgol Gyfun Llanhari ac Owain McKimm yn cael ei ddyfarnu'n 'Wrthwynebydd y Noson', bu'n rhaid iddynt wynebu pump tîm arall yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn Ysgol Gyfun Treorci. Y Parchedig R Alun Evans oedd Cadeiriydd y panel beirniadu ac roedd yntau a'r ddau feirniaid arall "wedi'u gwefreiddio gyda safon y gystadleuaeth" haerodd mai hon oedd un o'r cystadlaethau gorau iddynt feiriadu erioed. Roedd 6 tîm o Lanbed yn y Gogledd i Fro Morgannwg yn y De, yn y gystadleuaeth, ond ennill, unwaith yn rhagor fu hanes tîm y Cymer. Alun Williams enillodd wobr 'Prif Gynigydd y Noson' a rhannodd tîm y Cymer y brif wobr 'Tim Buddugol Siarad Cyhoeddus De Cymru' gydag Ysgol Gyfun Glantaf. Mae'r darian, unwaith eto, yn ôl yn y Cymer a'r tîm eisioes wedi dechrau paratoi ar gyfer y gystadleuaeth Saesneg. Dymunwn bob llwyddiant i'r tîm a llongyfarchiadau gwresog ar eich llwyddiannau hyd yn hyn!
|