Bur fenter yn llwyddiant a chodwyd tua 150 o bunnau, os iawn y cofiaf, - hen ddigon o arian yr adeg honno i wireddur freuddwyd. Dewiswyd Gronw ab Islwyn, a oedd newydd ddod yn weinidog yn Hermon, Treorci, yn olygydd cyntaf y papur a fedyddiwyd Y Gloran.
Wn i ddim pwy a feddyliodd am yr enw ond gan taw dyna'r llysenw ar frodorion cysefin y cwm, roedd e'n ddigon addas. Cylch y papur oedd Blaenau'r Rhondda Fawr, ardal a ymestynai o dafarn y Gellidawel (The Star) yn yr Ystrad i Flaen-y-cwm a Blaenrhondda.
Y dyddiau cynnar
Gwaith llafurus oedd rhoi pob rhifyn at ei gilydd yn y dyddiau cynnar hynny gan fod rhaid teipio pob erthygl, ei thorri a siswrn ac wedyn ei phastio ar y dudalen.
Y golygydd oedd yn bennaf gyfrifol am y gwaith hwn, ond yn waeth na hynny, ef hefyd oedd yn mynd â'r copi terfynol at yr argraffydd ac yn gorfod sicrhau bod y papur yn ymddangos yn brydlon.
Glyn Davies, Wattstown, oedd yr argraffydd - crefftwr heb ei ail a pherson hynod o ddymunol ond un na olygai amser na phrydlondeb ddim o gwbl iddo.
Yn aml iawn byddai' n rhaid i Gronw aros yn Wattstown tan oriau man y bore i sicrhau bod Y Gloran yn ymddangos mewn pryd tra bod Glyn yn bwrw mlaen â' i waith heb sylweddoli bod pawb arall yn yr ardal yn cysgu!!
Cawsom dipyn o hwyl wrth y gwaith ac ambell dro trwstan. Rai blynyddoedd yn ôl, a minnau bellach yn golygur papur, bu farw gwr eithaf adnabyddus yn yr ardal.Roedd hi'n adeg Nadolig ac roeddwn i wedi bod yn Siôn Corn yn un o'r ysgolion lleol.
Yn rhifyn mis Ionawr o'r papur, trefnwyd bod teyrnged i'r ymadawedig ynghyd â llun ohono a hefyd llun o Siôn Corn. Yn anffodus, cymysgodd yr argraffydd di-Gymraeg y lluniau ac o dan y pennawd, "Y Diweddar Dan Jones" (ond nid dyna'r enw iawn) roedd llun Siôn Corn.
Ond, chwarae teg i Three Arch Press, yr argraffwyr ar y pryd, fe welodd ochr ddigrif y digwyddiad ac ailargraffodd y rhifyn!
Digon o helynt!
Os cawsom sbort, fe gawsom ambell helynt hefyd. Yr helynt pennaf o bosib, oedd yr adeg pan wrthododd CyngorBwrdeistref y Rhondda i'r Gloran gael ei ddosbarthu trwy'r ysgolion.
Minnau oedd ar fai (os bai, hefyd) am fy mod wedi croesawu buddugoliaeth ymgeiswyr nad oeddyn nhw' n perthyn i'r Blaid Lafur mewn etholiad lleol.
Dadleuais yn y golofn olygyddol nad oedd yn iach bod unrhyw blaid, beth bynnag ei lliw, yn cael rheoli'n ddiwrthwynebiad boed hynny ym Moscow neu Gwm Rhondda!
Cythruddwyd nifer o gynghorwyr lleol a'r Aelod Seneddol, Allan Rogers, a ddywedodd nad oedd y papur ond yn arf yn nwylo Plaid Cymru a'n bod ni yn ceisio dylanwadu ar blant bach diniwed.
Ofer oedd dangos bod y Blaid Lafur yn cael sylw dyladwy o dro i dro a bod yr Aelod Seneddol ei hun wedi ysgrifennu erthyglau i'r papur. Y diwedd oedd inni gael ein diarddel o'r ysgolion ond dal i brynu'r Gloran wnaeth y rhieni ac ni fu dyfodol y papur mewn perygl.
Er bod llawer o faich yn syrthio ar ysgwyddau'r golygydd, allai e' ddim gweithredu heb help llu o bobl eraill, yn golofnwyr, y gohebyddion lleol, dosbarthwyr, ffotograffwyr, trefnydd busnes ac yn bwysicaf y darllenwyr.
Ar hyd y blynyddoedd ces i a'r golygyddion eraill, gefnogaeth y bobl hyn. Gwelsom golofnwyr fel Bob Eynon yn datblygu'n awduron a nifer a ddysgodd y Gymraeg yn datblygu'n ysgrifennwyr cywir a diddorol.
Bu busnesau'r ardal yn gefn i'r papur hefyd a da yw dweud i nifer ohonyn nhw honni bod hysbysebu yn Y Gloranyn dwyn ffrwyth. .
Cyfraniad allweddol Anne Baik
Un person holl allweddol yn fy nghyfnod i oedd Anne Baik ynghyd â Rosa ei merch. Anne oedd yn gyfrifol am gysodi'r cwbl ac am feistroli cymhlethdodau'r offer cyfrifiadurol y buom yn ddigon ffodus i' w cael trwy grant Loteri.
Mae gan Anne ddawn arbennig yn y maes hwn ac rydym yn hynod ffodus ohoni. Gwnaeth ddiwrnod da o waith dros Y Gloran. Diolch o galon iddi.
Os yw'r Gymraeg i bara'n elfen bwysig ym mywyd y Cwm, mae'n hanfodol ein bod yn cynnal papur bro. Llwyddwyd i wneud hyn yn ddi-dor am chwarter canrif - camp sy'n deyrnged i gnewyllyn o Gymry ymroddgar sy'n mawrygu eu treftadaeth gyfoethog.
Fy nymuniad i a phob Cymro gwerth ei halen, yw gweld Y Gloran yn mynd, obeithiaf y bydd y golygydd presennol yn cael yr un gefnogaeth a'r pleser y cefais i ar hyd y chwarter canrif a aeth heibio mor gyflym.
Y Cynghorydd Cennard Davies