Yn arwyddocaol, nid oedd prynu'r cyffuriau' n dasg anodd and roedd talu amdanyn nhw' n bygwth iechyd ariannol y teulu cyfan. Yn ffodus mae David yn awr yn rhydd o afael ddieflig cyffuriau, and mae 250 o bobl Rhondda Cynon Taf a'r Merthyr yn dal yn gaeth wrth heroin. Does dim rhaid wrth radd mewn Cymdeithaseg i weld fod angen rhwystro'r cyflenwad cyffuriau rhag cyrraedd yr ardal, ac yr un mor bwysig efallai, i ddarparu rhaglenni datwenwyno digonol ar gyfer y sawl sy'n gaeth i gyffuriau. Dylem felly groesawu ddatganiad David Blunkett, yr Ysgrifennydd Cartref ei fod yn bwriadu rhoi hanner miliwn o bunnau i Heddluoedd De Cymru a Dyfed Powys er mwyn helpu cylludo Operasiwn Tarian sef ymgyrch yr Heddluoedd yn erbyn y delwyr cyffuriau. Hefyd dylem gefnogi galwad Geraint Davies, Aelod y Cynuuliad dros ardal y Rhondda, am ragor o fuddsoddi ar gyfer cefnogaeth a thriniaeth i'r rhai sy'n gaeth i gyffuriau. Os na wneir hyn fe all y canlyniadau fod yn ddifrifol iawn i'n cymdeithas. Ydych chi'n cytuno/anghytuno â'r sylwadau uchod? Beth yw hanes yr ardaloedd tebyg yn y Rhondda Fawr? Mynegwch eich barn!! .
|