Hunangofiant Glöwr: Rhan 2
Hunangofiant Glöwr: Rhan 3
Hunangofiant Glöwr: Rhan 4
Hunangofiant Glöwr: Rhan 5
Hunangofiant Glöwr: Rhan 6
Dyddiau Cynnar 1928-1934
Fe'm ganed dan olau nwy mewn stafell wely ffrynt yn Nhon Pentre ym mis Tachwedd 1928 a'r stryd dan eira. Gan fod 'na broblemau, doctor y pwll glo yn hytrach na'r widwith oedd yn goruchwylio'r enedigaeth. Dr Fergus Armstrong a drigai yn Gilnockie, Treorci [ar safle'r Llyfrgell bresennol] oedd y gŵr hwnnw. Roedd e' n llawfeddyg o fri, yn Sgotyn di-lol, braidd yn swrth a oedd wedi gwasanaethu'n anrhydeddus fel swyddog meddygol yn ystod y Rhyfel Mawr. Doedd dim angen poeni, roeddwn mewn pâr saff o ddwylo! Ac yntau'n löwr, roedd fy nhad wedi cyfrannu 3 ceiniog o bob punt o'i gyflog isel i gael gwasanaeth meddyg, moddion a rhwymau. Yn y dyddiau pell yn ôl hynny cefais lawfeddyg o'r radd flaenaf i ddod â fi i mewn i'r byd - a hynny am 9 ceiniog!
Glöwyr oedd 'nhad, fy nhad-cu a'm hen dad-cu gydag un tad-cu yn dechrau gweithio yn y pwll glo yn ddeg oed. Fe'i tynnid o'i wely cyn i'r wawr dorri a'i gario ar ysgwydd ei dad i waelod y pwll, ac yntau'n aml yn dal i gysgu, i weithio am saith neu wyth awr ond i'w dad allu dramaid ychwanegol o lo. Bu farw'r
bachgen hwn, fy nhad cu, o'r dicai (T.B) yn 1904 pan oedd ond yn 43 oed gan adael fy mam-gu yn weddw a chanddi chwech o blant i'w codi.
Dechrau Gwaith
Dechreuodd 'Nhad weithio yn y pwll glo yn 13 oed. Trowsus oedd amdano' n mynd i'r gwaith ond gwisgai drowsus byr ar ôl dod adre. Wedi'r cyfan, doedd e ond yn grwt! Pan oedd yn fachgen ysgol, roedd 'Nhad yn byw yn eithaf agos at Mabon, William Abraham A.S. a bwysai 23 stôn. Cai help criw o fechgyn o'r ysgol leol i gyrraedd ei gartref a oedd ar ben tyle serth yn Y Pentre. Adeg y Nadolig cai'r bechgyn hyn eu gwobr ganddo sef pisyn tair arian ac oren. Wrth i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau, dywedodd 'Nhad gelwydd am ei oedran er mwyn ymuno â'r fyddin. Ymladdodd yn Ypres, Verdun a'r Somme a chael ei anafu dair gwaith wrth iddo wasanaethu'r Machine Gun Company.
Y Cartref
Roedd pump ohonom yn byw yn ein cartref distadl, sef Mam a 'Nhad, Mam-gu, hen ewyrth (brawd Mam-gu) ac ewyrth, brawd Mam. Collodd fy hen ewyrth un o fysedd mawr ei draed o ganlyniad i ddamwain gafodd tra ar drip Ysgol Sul i Aberafan. Tynnai fy nghoes am hyn gan honni bod pysgodyn danheddog, cas wedi ei gnoi. Cyfeiriem bob amser at fy ewyrth fel y lodjyr, ond fe'i gelwid yn 'Bates' gan bawb arall. Roedd ef hefyd wedi ymladd yn y Rhyfel Mawr a llwyddo i ddod trwy sawl brwydr yn ddianaf. Fodd bynnag, y tro cyntaf iddo ddod adref ar lif o Ffrainc, fe benderfynodd ddathlu ei lwc dda trwy feddwi ym Mhontypridd ar y ffordd nôl i'r Rhondda. Cafodd help i ddal y trên olaf un adref ond wrth iddo ddisgyn yng ngorsaf Ystrad, fe gwympodd a thorri ei goes. Fe'i cariwyd yn ôl i'n tŷ ni ar stretsiyr. Aeth e drwy'r Rhyfel yn ddi-hap dim ond i gael ei anafu ar stesiwn Ystrad!
Cafodd Mam-gu strôc yn fuan ar ôl i 'Nhad-cu farw, 24 blynedd cyn fy ngeni, ac ar ben ei cholled bu rhaid iddi ymlafnio i fagu chwech o blant ifainc. Dyna pryd daeth ei brawd (fy hen ewyrth) i'r adwy. Collodd ef ei wraig a phlentyn ychydig o flynyddoedd cyn strôc Mam-gu. O weld trafferthion ei chwaer, gwerthodd ei dŷ ei hun a dod yn benteulu, yn dad ac yn dad-cu ar ein cartref ni. Roedd e wedi ymddeol o'r pwll ychydig cyn i fi gael fy ngeni ac roedd yn 68 oed, wedi ei eni yn 1860.
Roedd yr hen ewyrth hwn yn uchel ei barch. Yn ein cartref roedd hen gadair freichiau bren a elwid yn 'gadair Wncwl Tomi' a chai neb eistedd arni ar wahân iddo fe. O ganlyniad i'r strôc, collodd Mam-gu ei gwallt, ond trwy drugaredd fe dyfodd yn ôl, a chydag amser adferwyd ei nerth hefyd. Roedd hi'n wraig fonheddig o'r iawn ryw!
Dechrau'r Ysgol
Es i'r ysgol yn 3 oed yn Y Gelli. I nodi'r achlysur nodedig hwn roedd yn arfer i bob plentyn gael tynnu ei lun mewn bwth enfawr ychydig tu fa's i glwydi'r ysgol. Un o bleserau mwyaf fy mlwyddyn cyntaf oedd cael chwarae â chlai plastisin a chreu anifeiliaid, llongau a phobl. Mae llawer o'r profiadau o'r cyfnod hwn yn dal yn fyw yn y cof. Er enghraifft, byddwn yn rhoi gwerth dimai o sherbert mewn glasaid o ddŵr a thrwy ryw ryfedd wyrth ei droi yn Lemonêd!
Cof gennyf hefyd am ewyrth o Gwmparc a alwai yn ein tŷ ni bob nos Sul ar ôl y cwrdd. Yn ddiffael, deuai â bagaid o losin dant yn unswydd i Mam-gu. Ond gwyddwn yn iawn y cawn siâr a chymaint oedd fy awydd i flasu'r losin-nos-Sul nes imi ddechrau meddwl amdanynt rywbryd ar nos Wener! Cristion ail anedig oedd Mam a oedd wedi ymadael â'r capel Bedyddwyr lle y cafodd ei magu yn 1921. Ar y pryd, roedd yr efengylydd Pentecostaidd, Stephen Jeffries, yn cynnal cyfarfodydd yn Y Gelli ac awgrymai i'r dychweledigion ymuno â'r Eglwys Bentecostaidd. Cofiaf weld y bugail Pentecostaidd yn ymweld â'n cartref pan oeddwn yn grwt bach a minnau'n ei alw yn Iesu Grist!
Yanrhegion Dirwasgiad
Dyma flynyddoedd y Dirwasgiad. Roedd fy nheulu'n falch ond yn hynod dlawd. Doedd dim sôn am ystafell ymolchi, tŷ bach dan do, peiriant golchi, gwres canolog na charpedi gosod yn ein tŷ. Yr unig sebon oedd ar gael oedd sebon coch carbolig, ac yn y tŷ bach defnyddiem sgwarau o bapur wedi eu torri'n ofalus a siswrn o hen rifynnau o'r South Wales Echo. Darnau o gydau fflwr wedi eu golchi oedd ein neisiedon. Fy hoff bryd o fwyd oedd cinio dydd Gwener - cig moch a thomatos tun o'r Co-op lleol gyda phwdin bara i ddilyn. Papurau newydd glân oedd ein lliain bord ac fel arfer ar ddydd Gwener bwytai 'Nhad a f'Ewyrth gyda ni fel dau ddyn du a llwch y pwll glo yn dal ar eu hwynebau ar ôl gorffen y sifft.
Gan Tom Jenkins, Ynyswen. Wedi ei olygu gan Hugh Davies.