Y llynedd, cyhoeddodd Manon Rhys ei nofel ddiweddaraf, 'Rara Avis', hanes merch fach yn tyfu yng Nghwm Rhondda yn y pumdegau. Ym mis Rhagfyr 2005, lansiwyd 'Cerddi'r Cymoedd', casgliad o gerddi a olygodd, yng Ngwesty'r Parc Treftadaeth, Trehafod.Ble cawsoch chi eich geni?
Yn 'Aeron', Ffordd y Brithweunydd, Trealaw.
Beth oedd cefndir eich teulu? O ble y daethant i Gwm Rhondda?
Cardis oedd fy mam a 'nhad. Roedd fy mam, Mair Davies (gynt Rees) o Ffos-y-ffin, Aberaeron a 'nhad, James Kitchener Davies yn hanu o Dregaron. Athrawon ysgol oedd y ddau. Bu fy mam yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Tonypandy rhwng 1933 a 1940 - nes iddi ddechrau magu plant.
Ar ôl marw fy nhad yn 1952, dychwelodd at ddysgu yn Ysgol Uwchradd Porth ac Ysgol Ramadeg y Merched, Porth. Yna, fe symudon ni fel teulu i Brestatyn, Clwyd gan fod fy mam wedi derbyn swydd Pennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Y Rhyl. Bu fy nhad yn dysgu yn Ysgol Uwchradd y Pentre am flynyddoedd. Mae gen i ddwy chwaer, Megan a Mari. Mae'r ddwy yn byw yng Ngheredigion, Megan yn cadw Siop y Pethe, Aberystwyth a Mari wedi ymddeol prifathrawes ysgol gynradd.
Ble cawsoch chi eich addysg?
1952-1959 yn Ysgol Gynradd Gymraeg, Ynys-wen, Treorci. Wedyn symud ymlaen i Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth (Porth County Grammar School for Girls) ac oddi yno i Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Y Rhyl rhwng 1961 - 1969. Yna graddio yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a dilyn cwrs athrawon yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd.
Oedd unrhyw athrawon yn ddylanwad arnoch?
Fy mam!
Beth wnaethoch chi ar ôl gorffen eich addysg ffur¬fiol?
Priodi a chael plant! Yna gweithio fel athrawes Gymraeg am ychydig, cyn sylweddoli nad oedd fy nghalon yn y gwaith.
Eich cartref a'ch teulu ar hyn o bryd?
Rwy' n byw yng Nghaerdydd lle rwy'n briod â Jim Jones o Gastellnewydd Emlyn. Mae Owain, fy mab, yn byw gyda Lleucu, ei wraig ac yn gweithio fel dehonglydd yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Mae fy merch Llio yn briod â Tom (o Norwich ac wedi dysgu Cymraeg yn rhugl!). Ar ôl rhoi'r gorau i' w swydd fel cyfieithydd yn
y Cynulliad Cenedlaethol, mae Llio' n dilyn cwrs fel athrawes plant bach.
Pryd a pham y dechreuoch chi ysgrifennu?
Sylweddoli nad oeddwn i'n athrawes dda! Roedd S4C ar y gweill (1980) ac fe gefais gynnig i ysgrifennu sgriptiau. Yna fe ddechreuais ysgrifennu nofelau a straeon ar gyfer eu cyhoeddi.
Pa mor hunangofiannol yw eich nofel ddiweddaraf, 'Rara Avis'?
Ffuglen yw hi, ond bod iddi elfen gref o hunangofiant.
Pa lenorion sydd wedi eich ysbrydoli?
Nifer fawr, gan gynnwys Charlotte ac Emily Bronte, Louisa M. Alcott, W.B.Yeats, Philip Larkin, Ian McEwan. (Gwell stopio yn fan'na!)
Beth yw eich gobeithion mewn perthynas â'r cylchgrawn, 'Taliesin' rydych chi'n ei olygu?
Bod yn gylchgrawn llenyddol diddorol a deniadol, eang ei apêl a'i ddylanwad. Cyhoeddi gwaith creadigol beirdd a llenorion profiadol ac amhrofiadol. Bod yn llwyfan i feirniadaeth lenyddol o'r radd flaenaf.
Oes gennych chi ryw waith creadigol ar y gweill ar hyn o bryd?
Rwy' newydd orffen golygu cyfrol Cerddi'r Cymoedd, sef casgliad o gerddi am gymoedd diwydiannol y de - gan gynnwys, wrth gwrs, Cwm Rhondda! Rwy'n gobeithio cyhoeddi cyfrol o straeon byrion cyn hir.
Pa rai yw'r llyfrau mwyaf diddorol a ddarllenoch chi'n ddiweddar?
Nofelau Ian McEwan a 'Rhaid iti fyned y ffordd honno dy hun' gan Aled Jones Williams.
Pa ganghennau eraill o'r celfyddydau sydd o ddiddordeb i chi?
Cerddoriaeth o bob math a'r celfyddydau gweledol - er nad wyf yn deall hanner digon.
Beth ydych chi'n hoff ei wneud yn eich amser hamdden?
Hamdden? Beth yw hwnnw?. Fel arall, teithio a chysgu bob yn ail!
Ydych chi'n teimlo'n hyderus ynglŷn â dyfodol y Gymraeg?
Ydw. Mae'n rhaid inni fod yn hyderus neu does dim pwynt!