Cyflwynodd y bardd ei bryddest i blant Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen a chwaraeodd disgyblion a chyn-ddisgyblion yr ysgol rannau amlwg yn y cynhyrchiad. Rhoddwyd pwyslais teilwng ar dri a fun amlwg yn yr ymdrech i gadwr Gymraeg yn rhan hanfodol o gymdogaethaur Cwm, sef y bardd glowr, John Robert Williams, gweinidog Moriah Y Pentre, Robert Gruffydd, a'r bardd athro a gwleidydd, James Kitchener Davies. Adroddwyd y bryddest ar hyd y rhaglen â theimlad gan Daniel Evans, sydd erbyn heddiw yn actor proffesiynol llwyddiannus, nad yw wedi anghofio'i wreiddiau a sydd hefyd yn gynnyrch Ysgol Ynyswen - un sy'n falch i ddweud yng ngeiriau Rhydwen, ... mae marc y Cwmfel nôd ddafad ama i. Chwaraewyd rhan Kitchener Davies gan un arall o gyn-ddisgyblion Ynyswen, sef Huw Davies sydd erbyn heddiw yn gweithio fel athro'i hun yn Ysgol Gyfun Gymraeg y Cymer. Llwyddodd Huw i chwaraei ran ag argyhoeddiad. Roedd yn rhwydd i gredu mai athro/gwleidydd ydoedd. Er yn actor proffesiynol o fri doedd Glyn Houston ddim yn argyhoeddi yn ei ran fel bardd glöwr. Pethau eraill nad oedd yn argyhoeddi oedd gweinidog yn canu gitar ac ymweud â chyffuriau. Roedd hyn, mae'n debyg, yn ymgais i ddiweddaru delweddau'r bryddest ond rhaid gofyn a'i llwyddiant ydoedd? Gellir gofyn yr un peth am y dechneg o gael merched ifainc mewn tafarn i yngan geiriau a briodolir gan y bryddest i fenywod Cwm Rhondda yn negawdau cynnar y ganrif ddiwethaf. Ond un peth sydd wedi goroesi amser yn y Rhondda, fel pob man arall yw canu ac roedd yr elfen hon yn y cynhyrchiad yn dderbyniol iawn, er hwyrach mae lle i amaur penderfyniad i gael gan Gôr Pendyrus (gyda i Glyn Jones yn hytrach na ei) i ganu uwchben beddau Mynwent Pen-rhys.
|