Pryd a ble y cawsoch chi eich geni?
Fe ges i fy ngeni ar 30 Ionawr, 1974 yn Ysbyty Llwynypia, Rhondda.
Ble aethoch chi i'r ysgol a gafodd unrhyw athrawon ddylanwad arnoch?
Es i Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Treorci, yna i Ysgol Gyfun Rhydfelen ac wedyn i Ysgol Gyfun Llanhari ar gyfer y chweched dosbarth. Roedd Mr Meirion Lewis yn brifathro ar Ysgol Ynyswen ar y pryd ac o dan ei ddylanwad e fe ddes i werthfawrogi'r iaith Gymraeg. Yna, yn Ysgol Llanhari, roedd Mrs Lowri Cynan yn llawn cefnogaeth a brwdfrydedd dros ddrama. Mae nifer o ddisgyblion yr ysgol wedi dewis gyrfa ym myd teledu, theatr a ffilm ac iddi hi mae'r diolch am hynny.
Beth wnaethoch chi ar ôl gorffen eich addysg ffurfiol?
Tra `mod i yn yr ysgol fe ges i gyfle i actio mewn drama yn Llundain am gyfnod. Wedi'r profiad gwych hwnnw, fe benderfynais taw dyna fyddwn i'n hoffi ei wneud fel gyrfa. Ces i gyfle i wneud ffilm a chyfres deledu hefyd. Wedyn, ar ôl cwpla fy addysg ffurfiol doedd hi ond yn naturiol imi geisio ffeindio asiant. Penderfynais i beidio a mynd i goleg gan taw ysgol brofiad fyddai'r ysgol orau i fi.
Ers pryd ydych chi wedi bod yn actio yn Pobol y Cwm?
Fe ymunais â chast Pobol y Cwm yn 1993 fel Stacey Jones - merch ysgol beniog a gonest o'i chymharu â gweddill ei theulu. Yn 1996 fe ges i frêc gan mod i'n awyddus i weithio ar bethau gwahanol. Bues i'n gwneud ffilm yn Rwsia, ffilm yn Ffrainc a ches i gyfle i deithio Prydain ac Awstralia mewn drama lwyfan. Yn 1999 roedd cynhyrchydd y gyfres yn awyddus i Stacey ddychwelyd i Gwmderi. Wedi i mi gael fy merch fach, Lowri, roeddwn yn hapus i wneud hynny.
Ydy pobol yn cyfeirio atoch chi fel Stacey ar y stryd?
Odyn, drwy'r amser! Mae siopa yn Tesco yn cymryd oriau! Ac er fy mod i a fy nheulu yn gyfar¬wydd â hyn mae cael fy nabod yn gallu digwydd yn y lleoedd mwyaf od. Er enghraifft wrth imi aros mewn ciw i fynd ar reid E.T. yn Florida a hefyd yn Eurodisney pan sgrifennodd cymeriad Winnie the Pooh 'Croeso i Disney' yn llyfr llofnodion Lowri!
Pam rydych chi 'n dal i fyw yn y Rhondda?
Does gennyf ddim awydd o gwbl i adael y Rhondda. Dw i' n lico'r gymuned. Mae Lowri' n hapus yn Ysgol Bronllwyn a dw i' n llawer rhy ddibynnol ar Mam i fyw yn unlle arall!
Beth yw eich gobeithion ar gyfer y dyfodol? Oes unrhyw ran yr hoffech chi ei hactio?
Rydw i'n cymryd brêc o Pobol y Cwm dros yr haf er mwyn hala mwy o amser gyda'r teulu. Ond dw i wedi cytuno i fynd yn ôl i greu trafferth i Rhodri Lewis a'i dad. Fe hoffwn i fynd yn ôl i'r theatr rywbryd a chael fy nghyfarwyddo gan fy ffrind Daniel Evams. Dw i wedi gwneud cwrs 'Councelling Skills' ym Mhrifysgol Caerdydd, felly mae digon i'w wneud!
Beth ydych chi 'n hoffi ei wneud yn eich amser hamdden?
Ymweld â ffrindiau, mynd i'r theatr a dilyn rygbi. Er ein bod ni yn gefnogwyr Pontypridd, rydym yn ymweld â Pharc y Strade yn amal. Rydym ni'n ffrindiau mawr gyda Sarra Elgan a'i gŵr, Simon Easterby sydd yn gapten ar dîm y Scarlets.
|