91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Lamp y Coliar - gwobr yr Wyl Gerdd Dant Lamp y Coliar
Rhagfyr 2006
Pan ddaeth yr Å´yl Gerdd Dant i'r Rhos ym mis Tachwedd 2006 fe gafodd rhywun y syniad ardderchog o gyflwyno Lamp Coliar fach i enillwyr y gwahanol gystadlaethau.
Roedd hyn yn addas iawn yma, wrth gwrs, ond yr hyn sydd yn syndod ydy mai cyn lleied o'r cystadleuwyr oedd yn deall pwysigrwydd ac arwyddocâd y lamp - hyd yn oed ymhlith rhai o ieuenctid yr ardal ei hun.

Er bod sôn am weithio glo mor bell yn ôl â 1414 yn ardal Coedpoeth a Brymbo ni ddaeth trefn ar y diwydiant tan y ddeunawfed ganrif. Ym 1715 fe agorodd John Mellor o Erddig bwll ym Mryn yr Owen ac ym 1762 yr oedd pwll yn cael ei weithio yn Llwynenion yn ogystal â nifer o byllau bach yn Aberderfyn ac yn ardal Allt-ty-gwyn.

Ond fe roddodd dau beth pwysig iawn symbyliad i'r diwydiant glo yn y ddeunawfed ganrif. Y cyntaf oedd darganfod y broses o ddefnyddio golosg i wneud haearn gan Abraham Darby ym 1709. Yr ail oedd yr 'injan stem' a ddyfeisiodd James Watt ym 1769 gan greu galw mawr am lo ar gyfer y ffatrïoedd newydd. Fodd bynnag yn y pyllau cynnar yr oedd problem enfawr ynglŷn â chael system wyntyllu effeithiol. Y dull a ddefnyddiwyd ar y dechrau oedd suddo dwy siafft. Yna cyneuid tân yng ngwaelod un siafft fel bod yr awyr gynnes yn codi ac yn tynnu awyr ffres i lawr y siafft arall ac roedd hwnnw wedyn yn mynd o amgylch y pwll.

Lamp Davy wreiddiolOherwydd y gwyntyllu gwael hwn roedd nwy, sef methane neu fire-damp yn casglu yn y pwll ac roedd hwnnw'n cael ei danio'n hawdd gan y canhwyllau a ddefnyddiwyd gan y gweithwyr i roi golau. Achosodd hyn lawer iawn o ddamweiniau erchyll efo llawer yn cael eu llosgi'n ofnadwy ac eraill yn colli eu bywydau. Aeth pethau mor ddrwg nes gorfodwyd llywodraeth y dydd i gomisiynu'r cemegydd enwog Syr Humphrey Davy i ddyfeisio lamp oedd yn ddiogel yn y pyllau glo. Ac ar ôl tipyn o waith ymchwil erbyn 1815 fe greodd Davy lamp debyg i'r un welir yn y llun (ar y chwith). Cyfrinach y lamp ydy'r feinwe- gauze- sydd o gwmpas y fflam. Mae hwn wedi ei wneud o gopr sydd yn trosglwyddo gwres yn effeithiol. Er enghraifft gwirion fyddai gwneud procar tân allan o ddarn o gopr gan y buasai'n rhy boeth i afael ynddo. Petai'r lamp mewn awyr oedd yn cynnwys nwy fe wnâi hwn ffaglu y tu mewn i'r feinwe gan fod y copr yn tynnu allan y gwres ac yn rhwystro'r nwy tu allan i'r lamp rhag ffaglu. Ac yn achosi i'r lamp ddiffodd.

Fe gafodd nifer o welliannau eu gwneud i'r lamp dros y blynyddoedd. Erbyn y 1960au roedd y lamp yn cynnwys gwydr pairecs sy'n gwrthsefyll gwres. Yn ogystal gosodwyd dwy feinwe- un y tu mewn i'r llall i weithio fel 'bonet' i ddiogelu'r feinwe- a defnyddio tanwydd nad oedd yn cynhyrchu llawer o huddygl.

Er i lampau gael eu defnyddio yn y pyllau yn ddiweddarach yr oedd y lamp olew yn parhau i fod yr un mor bwysig ag erioed er mwyn darganfod nwy mewn pwll. Mae methane yn sgafnach nag awyr ac yn tueddu i gasglu mewn tyllau yn y 'roof' (`roof, sylwer ac nid to!). Mae modd mesur faint o nwy peryglus sydd yn bresennol yn yr awyr trwy droi fflam y lamp yn isel iawn. Os oes nwy'n bresennol fe fydd yn ymddangos fel eurgylch neu `halo' trionglog ar ben y fflam. Ac os oes 4% neu fwy o nwy yn yr awyr fe fydd yn ffaglu y tu mewn i'r lamp. Mae hyn yn arwydd ei bod hi'n beryglus i'r coliar weithio yn y fan a'r lle.

Felly pan fydd enillwyr yr Ŵyl Gerdd Dant yn edmygu eu tlysau gobeithio y byddan nhw'n rhoi diolch distaw i Syr Humphrey Davy am ddyfeisio'r lamp coliar. Yn siŵr ddigon fe wyddai pob coliar ei gwerth.

(Diolch i'r coliar tanddaearol am rannu ei wybodaeth a'i brofiad am fywyd y pwll glo. Gobeithiwn y medrir ei berswadio i restru rhai o'r termau a'r eirfa oedd yn perthyn i'r diwydiant glo - yn enwedig ym Mhwll Hafod - ac sydd wrth gwrs mewn perygl o ddiflannu am byth. Y pyllau glo wedi'r cwbl yw ein treftadaeth.)

  • Cliciwch yma i ddarllen am Lampau'r Golwyr - gwobrau yr Å´yl Gerdd Dant

  • Gwefan Gŵyl Gerdd Dant Rhos 2006


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý