91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Rhos yn creu hanes drwy gipio'r gwpan Cipio'r Gwpan
Mai 2008
Fe fu Rhos Aelwyd yn dathlu'n ddiweddar ar ôl un o'r penwythnosau mwyaf llewyrchus yn hanes diweddar y clwb.
Cododd Rhos Darian Cymru ar ôl curo Corwen 4-2 o flaen tyrfa o fwy na 200 ar gae Plaskynaston, Derwyddon Cefn ddydd Sadwrn y 12fed o Fai. Talodd Steve Walters, y gŵr tu ôl i'w buddugoliaeth, deyrnged i'w dîm ac mae rŵan wedi gosod sialens bellach iddyn nhw geisio sicrhau lle yn y Cymru Alliance.

"Dyma'r gwpan fwyaf y gall Rhos ei hennill, ac rydym wedi llwyddo", dywedodd Walters. "Mae'n llwyddiant arbennig i'r clwb. Rydyn ni i gyd yn awyddus i'r fuddugoliaeth yma arwain at rywbeth arall. Yn fathemategol, gallwn ennill y gynghrair o hyd, er mai Brymbo yw'r ffefrynnau, rydyn ni am roi cynnig arni.

Mi fyddwn yn gryfach y tymor nesaf, ond roedd dydd Sadwrn yn troi o gwmpas ennill y gwpan a rhoi Rhos yn ôl ar y map pêl-droed.

Rydyn ni hefyd wedi elwa'n ariannol o ennill dydd Sadwrn ac mae hynny mor bwysig ar gyfer clwb fel Rhos. Mae'n rhoi sylfaen gadarn i ni adeiladu arni, ac mae'n wobr am yr holl waith caled a wnaeth pawb sy'n gysylltiedig a'r clwb."

Yn un o'r gemau pwysicaf yn eu hanes yng ngolwg sawl, fe gafodd Rhos y dechrau gorau posibl trwy fynd ar y blaen ar ôl pedwar munud. Llwyddodd Tony Cann i ddianc i fyny'r asgell dde i fwydo'r bêl i'r prif sgoriwr Matty Holmes, a drechodd y ceidwad efo ergyd i'r gornel isaf.

Dyblodd Rhos y blaen yn y 12fed munud pan sgoriodd Cann o 12 llath.

Roedd gweddill yr hanner yn eithaf blêr, efo Rhos yn dal a mantais o ddwy gol, ond heb gynhyrchu'r gem basio rydd y maen nhw wedi ei dangos dros y wythnosau diwethaf. Ac fe ddaeth y ceidwad Kevin Andrews i achub Rhos ag arbediad gwych pan lwyddodd Corwen i osgoi'r trap camsefyll cyn yr egwyl.

Fe ddechreuodd Corwen yr ail hanner yn edrych tuag at ddod yn ôl i'r gêm. Ond er i Andrews gael ei brofi ag ymgais o bell, Rhos a gipiodd y gôl nesaf. A hynny ar yr awr pan lwyddodd yr amddiffynnwr Rob Salisbury i gyrraedd yr uchelfannau a phenio i gefn y rhwyd.

Gyda dim i'w golli, taflodd Corwen bopeth at Rhos gan ddod a hi'n ôl i 3-1 efo peniad cadarn oddi wrth Iwan Jones ag 20 munud i fynd.

Ond ymatebodd Rhos yn syth ar ben arall y cae gan adfer eu mantais o dair gol pan drosodd Geraint Williams wrth y postyn pellaf ar ôl ychydig o chwarae dawnus ar yr asgell gan y Sbaenwr slic Jose Alkatra.

Fe drosodd Eilir Edwards gic o'r smotyn i Gorwen yn yr 80fed munud, ac er i'w dim weld llawer o'r bêl yn y 10 munud olaf, daliodd Rhos yn gadarn i godi'r gwpan.

Hei lwc am ddyrchafiad!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý