Bydd pob sedd wedi cael eu gwerthu gyda'r gynulleidfa'n disgwyl yn eiddgar am noson arall o gerddoriaeth o'r radd uchaf fydd yn dechrau am 7 o'r gloch.
Eleni eto bydd naws Gymreig i'r cyngerdd gyda'r pianydd lleol LlÅ·r Williams a'r tenor sy'n byw ger Rhuthun, Rhys Meirion, yn westeion. Mae LlÅ·r Williams wedi camu i gyhoeddusrwydd cenedlaethol yn ei yrfa fer ac mae dyfodol disglair iawn iddo heb amheuaeth.
Cafodd Llŷr ei eni ym Mhentrebychan a mynychodd Ysgol Hooson yn y Rhos ac Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam. Tra yr oedd yn yr ysgol daeth yn gyfeilydd i Gôr Meibion y Rhos. Fe enillodd ysgoloriaeth i ddarllen cerddoriaeth yng Ngholeg y Frenhines yn Rhydychen lle graddiodd ym 1998 gyda gradd dosbarth cyntaf Alpha. Aeth ymlaen i wneud ysgoloriaeth ôl-radd yn yr Academi Gerdd Frenhinol lle enillodd pob gwobr oedd ar gael.
O 2000 i 2002 roedd yn "Shin Fellow" yn yr Academi, yn hyfforddi cantorion ac yn astudio arweinyddiaeth. Yn 2004 cafodd y Wobr Borletti-Buitoni Trust ac yn gynnar yn 2005 enillodd y wobr MIDEM Classique `Outstanding Young Artist Award' yn Ffrainc. Yn ychwanegol fe gafodd ei ddewis yn New Generation Artist gan y 91Èȱ¬ ac am ddwy flynedd rhoddodd ddatganiadau yn gyson ar 91Èȱ¬ Radio 3 ac fel unawdydd gyda cherddorfeydd y 91Èȱ¬ Symphony, Cerddorfa Genedlaethol Cymru a Cherddorfa Ffilharmonig y 91Èȱ¬. Bu'n gyfeilydd swyddogol ddwywaith yng nghystadleuaeth Canwr y Byd yng Nghaerdydd.
Hefyd ym 2005 cymerodd LlÅ·r ran yn Y Proms yn Neuadd Albert, Llundain am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symphony y 91Èȱ¬ ac mae wedi cymryd rhan yng Ngŵyl Rhyngwladol Caeredin saith o weithiau dros y pedair blynedd diwethaf. Yn ystod yr haf hwn ymddangosodd eilwaith yn y Proms a bu yn America am y tro cyntaf a hynny efo Cerddorfa Talaith Minnesotta. Bydd yn dychwelyd i UDA toc ar ôl y Nadolig i roi saith perfformiad mewn gwahanol ddinasoedd yn y dwyrain.
Fe ryddhaodd ei CD cyntaf yn gynharach yn y flwyddyn yn cynnwys Preludes Chopin. Dywedodd un beirniad papur newydd: "Yn aml iawn mae rhywun yn gofyn i mi sut rwyf yn diffinio athrylith. Ar ôl clywed a gweld Llŷr Williams yn canu'r piano fy ateb i bobl ydy, ewch i glywed Llŷr yn perfformio, bydd athrylith o'ch blaen."
Mae'r tenor Rhys Meirion yn adnabyddus iawn hefyd. Yn frodor o Dremadog daeth yn brifathro ysgol Pentrecelyn, ger Rhuthun, cyn dechrau hyfforddi fel unawdydd. Fe astudiodd yn Ysgol Cerdd a Drama'r Guildhall ac ym 1999 ymunodd â Chwmni Opera Lloegr. 0 2001 i 2004 fo oedd y prif unawdydd a chanodd mewn llawer o'r operâu mwyaf adnabyddus.
Ym 2002 aeth i Awstralia lle canodd ran Rodolfo yn La Boheme i Gwmni Opera Gorllewin Awstralia. Mae Rhys wedi cymryd rhan mewn cynhyrchion yn Frankfurt-aus-¬Main, Hong Kong, Florida ac yn Ottawa. Rhai misoedd yn ôl roedd yn Awstralia eto yn canu i Opera Awstralia ac yn Lithiwenia yn canu i Gwmni Opera Cenedlaethol y wlad honno Mae Rhys wedi cymryd rhan mewn amryw o Wyliau Cerddorol yn cynnwys rhai yng Ngogledd Cymru, Abertawe ac yn Chelten¬ham i enwi ond rhai. Cymerodd ran yng nghyngerdd agoriadol y Proms ym 2001 gyda Bryn Terfel ac mae'r ddau wedi rhyddhau CD dan y teitl Benedictus ar label Sain. Yn ogystal mae Rhys wedi rhyddhau dau re¬cordiad unigol i Sain ac un i gwmni yn Aw¬stralia.
Mae ei ymddangosiadau ar y teledu yn cynn¬wys canu ym Messiah (Handel). Y mae galwadau mawr am wasanaeth Llŷr Williams a Rhys Meirion a bydd y ddau yn siŵr o blesio cynulleidfa orlawn y Cyngerdd Blynyddol ar y noson.
Fel sy'n arferol bydd Rona Jones yn cyfeilio i'r unawdydd ac mae ei medrusrwydd ar y piano yn wybuddus i bawb. Mae Rona wedi cyfeilio i rhai o unawdwyr mawr y byd ac maent yn gwerthfawrogi ei thalent - fel mae'r côr yn ei wneud. Bydd Côr Meibion y Rhos dan arweiniad John Daniel, gyda'r Dirprwy Gyfarwyddwr Kevin Whitley, yn arwain mewn tri darn yn ogystal â chyfeilio.
Cliciwch yma i ddarllen hanes Côr Meibion y Rhos, gan un o'r aelodau