91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Mark Jones Mark yn gwneud ei farc!
Mai 2006
Mark Jones o'r Rhos yn cael ei ddewis yn un o chwaraewyr y flwyddyn.
Ar ddiwedd pob tymor fe fydd chwaraewyr y gwahanol adrannau yn ogystal a dewis chwaraewr y flwyddyn yn dewis yr un deg un chwaraewr gorau y maen nhw'n meddwl a fyddai'n ffurfio tîm gorau eu hadran.

Eleni y mae chwaraewyr Adran 2 wedi anrhydeddu Mark Jones o dîm Wrecsam trwy ei ddewis ar gyfer tîm Adran 2. Mae hyn yn glod arbennig i Mark gan nad ydy tîm Wrecsam eleni - oherwydd problemau arian¬nol yn bennaf - wedi mwynhau'r tymor mwyaf llwyddiannus yn ei hanes.

Aeth Mark sy'n fab i Allan Victor Jones ac Alison Winn, Stryt Las i Ysgol y Wern lle dechreuodd chwarae i dimau dan 9 a than 10 y Rhos o dan ofal John Glassby. Aeth yn ei flaen wedyn i Ysgol y Grango lle cafodd ei hyfforddi ymhellach gan Mr P. Phillips. Fe chwaraeodd i holl dimau'r ysgol yn ystod ei gyfnod yno ac yn ogystal fe chwaraeodd Mark i dîm dan 12 y Rhos.

Cyn hynny, fodd bynnag, pan oedd o'n aelod o dîm dan 10 y Rhos fe chwaraeon nhw yn y ffeinal ar y Cae Ras yn Wrecsam ac fe wnaeth Mark ddigon o argraff yn y gêm honno i Glwb Wrecsam ei arwyddo. Pan oedd o'n ddigon hen fe aeth o ar gynllun ieuenctid y clwb a chwaraeodd i'r tîm cyntaf yn erbyn Caerwysg pan oedd o'n ddim ond dwy ar bymtheg oed. Bellach, fel mae anrhydedd ddiweddaraf ei gyd-chwaraewyr yn profi, mae'n aelod blaenllaw o'r tîm cyntaf.

Ar ben hyn mae wedi ennill tri chap dan 21 i Gymru ac roedd gan John Toshack hefyd ddigon o ffydd yn ei allu i'w gynnwys ar y fainc ar gyfer gêm ddiwethaf Cymru yn Stadiwm y Mileniwm. Mae Mark yn gobeithio mynd cam ymhellach ddiwedd y mis hwn a chael chwarae rywfaint o'r gêm pan fydd Cymru'n mynd ar daith i San Sebastian. Yn ogystal â hyn mae o'n gobeithio cael ei ddewis unwaith eto i'r tîm dan 21.

Mae Mark sy'n hapus yn byw adref yn y Rhos wedi arwyddo cytundeb newydd efo Wrecsam ar gyfer y tymor nesaf. Ond mae'n dweud mai ei obaith wedi iddo ennill mwy o brofiad ydy ymuno ag un o glybiau mawr y Brif Adran. Yn wir, ei freuddwyd fyddai chwarae i Man U.

A phwy â ŵyr efo'i allu cynhenid a'i hunan ymroddiad amlwg na ddaw hynny'n wir. Ac y gwelwn ni Fark arall o'r ardal, yma'n gwneud ei farc efo Manceinion yn ogystal â Chymru.

Ein llongyfarchiadau a'n dymuniadau gorau i Mark.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý