Mae Bethan yn ferch i Nancy ac Elwyn Jones (y Sgwâr, gynt) ond sydd bellach wedi symud i fyw i Gaerdydd i fod yn nes at Bethan a'i theulu.Mae Bethan wedi cael llawer o brofiad ym myd y theatr, ffilmiau a theledu - fel actores, cynhyrchydd a chyfarwyddwraig.
Cyfarwyddo dramâu arloesol
Bu'n cyfarwyddo nifer o ddramâu arloesol a chyffrous Cwmni Theatr Dalier Sylw; hi hefyd oedd cyfarwyddwraig y Sioe Gymuned, yn y Stiwt ym 1990.
Bu wedyn yn Gyfarwyddwr Artistig Sgript Cymru, corff sy'n hyrwyddo 'sgrifennu newydd gan ddramodwyr ledled Cymru - swydd allweddol dros ben.
Yn awr mae Bethan yn symud i fyd y bu llawer o drafod arno yn y wasg yn ddiweddar - cyfresi operâu sebon. Mae'r misoedd dwytha wedi bod yn rhai pur argyfyngus i'r math hwn o deledu a bu llawer o feirniadu ar gyfresi yn Lloegr a Chymru, fel ei gilydd, a phryderon yn cynyddu bod nifer y gwylwyr yn lleihau.
Tipyn o her
Denu gwylwyr yn ôl fydd blaenoriaeth Bethan. Mae hyn yn dipyn o her, gan fod Pobol y Cwm yn gyfres bwysig ac wedi bod ar ben siartiau gwylwyr S4C o'r dechrau.
Talodd Bethan deyrnged i Terry Dyddgen-Jones fu'n cynhyrchu'r gyfres o'i blaen.
Meddai "Roedd lot o waith datblygu wedi cael ei wneud gan y cynhyrchydd blaenorol ar yr ochr gynhyrchu.
"Roedd hi'n amlwg, nid jyst i mi ond i bobol y 91Èȱ¬ yn gyffredinol, mai'r adran storïau a sgriptio oedd angen ei ddatblygu ac felly fy mhrofiad i yn y maes arbennig hwn, am wn i, oedd yr atyniad.
"Wnes i feddwl. Ocê, os mai dene'r pwyslais, mae'n rhywbeth alla i gyfrannu ato.
"Mae'n anferth o job - mae fel y QE2! Os 'dach chi ishio trïo newid rhywbeth, mae o'n cymryd oes. O achos bod y rhaglen yn gweithio cymaint ymlaen llaw, welwch chi mo ôl y gwaith dw i'n ei ddechre rŵan tan yr hydref."
Llawer o bwysau
"Mae'n gyfres sy'n golygu llawer o bwysau - mae ymlaen bum gwaith yr wythnos gydol y flwyddyn."
"Amser ydi'r bwgan, meddai hi. "Rhaid trefnu pethe fel bod y storïwyr a'r awduron yn cael digon o amser i weithio ar eu sgriptiau, i'w trafod a'u datblygu... a dod â gwaith a fydd 'falle dipyn bach yn wahanol."
Mae Bethan, serch hynny, yn ymwybodol mai peth peryglus fyddai codi arddull y theatr a'i osod yn glwt o fewn cyfrwng y teledu... nid hynny mae'n ei olygu wrth sôn am "greu rhywbeth gwahanol."
Ar beth fydd y pwyslais felly?
Canolbwyntio ar y cymeriadau
"Ein bwriad fel tîm fydd rhoi mwy o ffocws ar y cymeriadau sy'n byw ym mhentre Cwm Deri, be sy'n mynd ymlaen... bywydau'r bobol yma, sut mae pethe'n effeithio arnyn nhw, yn hytrach nag ar straeon sy'n eu cymryd nhw allan o'r pentre... datblygu cymeriadau craidd y gyfres."
"Eto i gyd, dw i'n gredwr mawr mewn gwneud yr annisgwyl," ychwanegodd, gan gyfeirio at y beirniadu a fu yn y wasg fod operâu sebon yn gor-ddefnyddio sefyllfaoedd eithafol er mwyn syfrdanu a chyffroi yn hytrach na'u bod yn rhan o dwf naturiol y plot.
Mae'r ffaith fod ffigyrau gwylwyr Pobol y Cwm yn peri pryder yn her i Bethan.
Creu cymuned yn y cwm
"Pan grëwyd y gyfres gyntaf", meddai, hi oedd yn cynrychioli Cymru gyfan. Dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n trio creu cymuned eto yn y cwm.
Os cawn ni afael ar y straeon a'r cymeriadau a chreu'r gymuned yma, yna mi fyddwn ni'n denu gwylwyr yn ôl. Os oes gan y gwylwyr ddiddordeb yn y bobol, mi fyddan nhw eisiau gwybod be' sy'n digwydd iddyn nhw."
Ein dymuniadau gorau i Bethan ac i'r gyfres.