91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Theatr y Stiwt, Rhos Barddoniaeth y Stiwt
Ionawr 2010
Hanes Michael Burn MC a gafodd ei ffilmio yn darllen ei farddoniaeth yn y Stiwt yn ddiweddar.

Unbenaethau a brenhinoedd; gwladgarwyr a bradwyr; bwystfilod a saint. Y mae Michael 'Mickey' Burn MC wedi adnabod y rhain i gyd. Ac wedi eu goroesi bob un!

Bellach y mae o'n 97 mlwydd oed ac mae wedi cael ei ddweud ei fod o wedi treulio deg bywyd i bob un pawb arall.

Yn wir yn ôl ei gyfaddefiad ei hun yn ei flynyddoedd cynnar cofleidiodd dri awto-cratiaeth: Natsiaeth, Comiwnyddiaeth a Chatholigiaeth. A fo ydy'r unig un sy'n dal yn fyw sydd wedi cwrdd ag Adolf Hitler a Franklin Roosevelt.

Roedd ei dad yn ysgrifennydd, twrnai a ffrind mynwesol i'r brenin a'i fam yn aeres gyfoethog ac aeth Michael i astudio'r Clasuron yn Rhydychen lle roedd o'n ffrind a chariad i Unity Mitford fondigrybwyll a'r ysbiwr Sofietaidd Guy Burgess. Ym 1936 ymunodd Burn â'r Times ond y flwyddyn ddilynol pan ddaeth gwir gynlluniau Hitler yn amlwg fe enlistiodd.

Enillodd y Military Cross am arwain grŵp o gomandos yn 'Operation Chariot', sef y cyrch chwedlonol ar St Nazaire. Yn ystod y noson honno yng ngheg y Loire enillodd 5 o filwyr y VC - y nifer mwyaf erioed mewn un cyrch.

Fe gafodd Micky ei ddal a thra roedd yn Colditz fo oedd yn gweithio stafell radio y carcharorion. Ond doedd ei ddarlithoedd ar ddamcaniaeth Farcsiaeth ddim wrth fodd prif swyddog y carcharorion, sef yr enwog Douglas Bader. Ac er i Bader geisio gwahardd y milwyr rhag mynd i wrando ar Red Micky fel y'i galwodd methodd.

Roedd Micky'n brysur yn darlledu yn y stafell ddirgel pan ryddhawyd y castell ac ni ddarganfuwyd y stafell hyd at ddwy flynedd yn ôl pan ddigwyddodd adeiladwr gnocio twll yn y wal.

Wedi'r rhyfel ymunodd â'r Times ac fel gohebydd bu'n dyst i'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau hanesyddol y cyfnod yn Ewrop a Rwsia. Wedi priodi Mary Booker ymgartrefodd ym Mhenrhyndeudraeth, lle buon nhw'n gymdogion ac yna'n gyfaill pennaf i'r athronydd Bertrand Russell a'i wraig olaf, Edith. Mae wedi ysgrifennu naw llyfr ffeithiol, 4 nofel a 6 chyfrol o farddoniaeth. Ac ar hyn o bryd mae o yn cael hwyl ar ddarllen a chyflwyno ei gerddi mewn gwyliau llenyddol ledled Prydain.

Rwan mae Warner Brothers yn cynhyrchu ffilm nodwedd enfawr o'i hunangofiant, 'Turned towards the sun: the extraordinary life of Michael Burn MC'. A choeliwch chi byth ond mae Michael Burn yn actio ynddo.

Yn ddiweddar fe ddaeth y criw i ffilmio Michael yn darllen rhai o'i gerddi yn y Stiwt - "a typical Welsh theatre". Yn ôl y broliant i'r ffilm bydd yn cyfleu manylion na ddatgelwyd erioed o'r blaen am fywyd llawn yr arwr hwn sydd wedi rhychwantu rhyfeloedd, cyfandiroedd a'r rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif.

Tybed gawn ni gyfle i weld y ffilm yn y Stiwt hefyd? Neu hyd yn oed y premiere?

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý