91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Parc y Ponciau Hwyl ar Barc y Ponciau
Gorffennaf 2009
Yr ardal yn dathlu agor Parc y Ponciau ar ei newydd wedd.

Pan wnaeth Nene ymholiadau ynglŷn â'r agoriad swyddogol ar y Ponciau, ddydd Mawrth, Mehefin 9, fe ddywedodd wrthym mai seremoni ar gyfer pwysigion Caerdydd a swyddogion a chynghorwyr Cynghorau Wrecsam a'r Rhos fyddai hwnnw, ond, dydd Sadwrn, Mehefin 13, roedd cyfle i holl bobl yr ardal ymuno yn y dathlu ar y Poncie. Cyfeillion Parc y Ponciau oedd wedi trefnu'r rhaglen - stondinau, ceffylau bach a sglefren i'r plant, a gweithgareddau.

Cyfeillion y Parc oedd hefyd wedi comisiynu gwaith i fand (tua 5 munud o hyd) gan un o'n cerddorion lleol, J. Brian Hughes, ar gyfer agoriad swyddogol y bandstand ar ei newydd wedd. Cafwyd perfformiad teilwng dros ben o'r gwaith gan hen Fand y Rhos, sydd bellach yn ymddangos dan yr enw Band Wrecsam Glyndŵr. Yn addas iawn roedd Brian Hughes wedi dewis enw addas i'r gwaith comisiwn, sef 'Bandstand'.

Wedi i'r darn comisiwn gael ei berfformio am 12 o'r gloch i ddechrau gweithgareddau'r diwrnod dathlu, cafwyd rhaglen hanner awr ddifyr iawn gan y band.

Erbyn y pnawn, roedd llethrau'r Poncie yn ddu gan bobl a rhaid llongyfarch gwirfoddolwyr diwyd Cyfeillion Parc y Ponciau am drefnu diwrnod arbennig o lwyddiannus.

Ar y Sul, y bwriad oedd trefnu Cymanfa Ganu, ond cafwyd llawer o drafferthion cael arweinydd a chyfeiliant i'r canu. Ar y munud dwytha, cytunodd Owen Roberts, Acrefair, i ddod draw efo'i organ drydan i gyfeilio mewn gwasanaeth a arweiniwyd gan y ficer, Y Parchedig Stuart Evans. Roedd cynulleidfa o tua 80 wedi ymgynnull a chasglwyd £90 ar gyfer Hosbis Tŷ Gobaith.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý