Ychydig cyn gwyliau'r Nadolig (8fed o Ragfyr 2005) fe dderbyniodd John Glyn Williams yr M.B.E. (Aelod o'r Ymerodraeth Brydeinig) gan y Tywysog Siarl, ym Mhalas Buck¬ingham, Llundain. Fe fu John Glyn dros gyfnod maith yn ymwneud â cherddoriaeth yn y fro. Fe ymddeolodd ychydig yn ôl o'i ddyletswydd fel arweinydd Côr Meibion Orffiws y Rhos, ar ôl gwasanaeth o dros 40 mlynedd gyda'r côr.
Fe fu hwn yn gyfnod llewyrchus iawn yn hanes y côr, ac fe aeth o â'r côr ar sawl taith ddiddorol gan gynnwys China, Israel, U.D.A., sawl gwlad yn Ewrop yn ogystal ag ar hyd a lled Prydain Fawr. Fe gafodd o hefyd y fraint o arwain Mil o Leisiau Corau Meibion Gogledd Cymru, yn Neuadd Albert, Llundain, am dri thro'n olynol - yn ogystal ag ennill y brif gystadleuaeth i gorau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Yr Wyddgrug.
Yn ystod y seremoni yn y palas chwaraewyd `Gwŷr Harlech' gan fand y Gwarchodlu Gwyddelig. Fe synnwyd John Glyn cymaint yr oedd Tywysog Cymru'n ei wybod am ei gefndir - a'i brofiad. Gwyddai'r Tywysog hyd yn oed bod dau gôr meibion yn y Rhos!
Fe' fu John Glyn ym Mhalas Buckingham, Llundain, am dderbyniad ychydig fisoedd ynghynt hefyd, pan wahoddwyd o (gyda tua dau gant o rai eraill) yno fel un oedd wedi bod â chysylltiadau clos â cherddoriaeth. Roedd y Frenhines ei hun yno ar yr achlysur hwnnw ac fel yr oedd John Glyn yn sgwrsio gydag Owain Arwel Hughes, (am y Rhos!), daeth y Frenhines atyn nhw i siarad. Ac wrth gwrs roedd Owain Arwel yn ei hadnabod hi, a dyma fo'n cyflwyno John Glyn iddi'n annwyl, gan egluro bod John Glyn yn ffrind iddo fo a'i dad gynt!
Emlyn Edwards, (Swyddog y Wasg i Gôr Meibion Orffiws y Rhos)
Yn y llun gwelir John Glyn gyda'i fedal, a'i wraig Meira a'i ddwy ferch, Elin a Lowri. Roedd ei fab Dylan a'i wraig yn Llundain hefyd, ond gwahoddiad i dri yn unig oedd i'r palas. Ein llongyfarchiadau a'n dymuniadau gorau i John Glyn.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |