Cynhaliwyd cyngerdd yn y Stiwt nos Wener, Chwefror 5ed, i godi arian i Apel Trychineb Daeargryn Haiti. Bu'n noson, yn ôl nifer fawr o bobl, a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd lawer. Am y tro cyntaf erioed, daeth pedwar côr y Rhos at ei gilydd (Cantorion y Rhos, y Côr Merched, y Côr Meibion a Chôr Orffiws y Rhos) i rannu'r llwyfan gyda thriawd offerynnol (Triawd Adlais) a chyflwyno gwledd gerddorol. Braf hefyd oedd gweld poster y tu allan i'r Stiwt yn cyhoeddi bod pob tocyn wedi ei werthu.
Bu'r noson yn lwyddian ariannol; codwyd £3, 550 a rhaid i mi ddiolch i'r Stiwt am ddarparu holl adnoddau'r adeilad, argraffu'r posteri a gwerthu'r tocynnau, heb godi yr un ddimai am y cymwynasau hyn.
Yn ogystal â chael cyfle i wrando ar yr amrywiaeth cerddorol a gyflwynwyd, uchafbwynt y noson i mi oedd yr olygfa pan welwyd y pedwar côr yn dod gyda'i gilydd ar y llwyfan i gloi'r noson, rhywbeth, gobeithio, a fydd yn cael ei weld eto yn y dyfodol agos.
Daeth y noson i ben pan safodd y corau a'r gynulleidfa mewn munud o dawelwch i gofio'r miloedd a laddwyd yn y drychineb ac yna ymunodd y corau a'r gynulleidfa i gydganu 'I bob un sydd ffyddlon' - anthem y Rhos!
Diolch o galon i bawb a gymerodd ran ac am gefnogaeth y gynulleidfa a ofalodd fod Theatr y Stiwt yn orlawn. Mae'n amheus gen i a allai unrhyw bentref arall yng Nghymru fod wedi cyflwyno'r fath gyngerdd ffantastig.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |