Dymuniad aelodau'r côr a'r arweinydd, Aled Phillips, oedd fod yr arian hwn yn cael ei gyflwyni i Hosbis Tŷ'r Eos.
Mae hyn yn ychwanegol at y £300 a gyflwynwyd gan y côr i'r Hosbis ym mis Medi, sef arian y wobr a gafodd Cantorion Maelor yng nghystadleuaeth Côr Pensiynwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug y llynedd.
Mae'r ddau gyfraniad yn gwneud cyfanswm o £945 ac mae'n cynnwys rhodd dienw o £100.
Thema'r gwasanaeth Nadolig yn Eglwys Dewi Sant, Rhos, oedd cyflwyno alawon sy'n gysylltiedig a'r ardal a charolau gan gyfansoddwyr lleol. Wedi'r cyfarfod, estynnwyd gwahoddiad i Gantorion Maelor recordio'r carolau ar gyfer rhaglen o garolau i'w darlledu y Nadolig nesaf ar Radio Cymru.
Recordiwyd y cyfan mewn un sesiwn ddiwedd Ionawr yn awyrgylch hyfryd Eglwys Pentre Brychdyn.
Y carolau oedd: Anwylyn Mair (Gilmor Griffiths; tr. Aled Phillips); Y Byd a'r bydoedd (Emyr James, y geiriau gan R Tegid Jones); Wele Cawsom ar y dôn Yr Wyddgrug (John Ambrose Lloyd/geiriau Dafydd Jones); Pwy ydyw Ef ar yr alaw Garmon (Anwen Griffiths tr. Aled Phillips/geiriau WD Williams); Ei Seren Ef (Tom Carrington/geiriau Cynan); Boed Noel (Brian Hughes/geiriau Euros Bowen); Roedd sêr yn ddisglair (John Hughes/geiriau W Rhys Nicholas); Mae'r nos yn fwyn ym Methlehem ar y dôn Vilda (Caradog Roberts/geiriau W Rhys Nicholas); Hwiangerdd Mair (WS Gwynn Williams/geiriau T Rowland Hughes), a Carol y Proffwydi.
Yn ôl yr arbenigwyr Adran Traddodiadau Llafar yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, mae Carol y Proffwydi yn unigryw i'r Rhos - does dim cofnod arall ohoni ar dâp nac ar glawr yn unman arall yng Nghymru.
Recordiwyd Wil Pritchard yn canu'r garol tua 1970 gan Sim Hannaby a threfnwyd y garol ar gyfer pedwar llais gan J Brian Hughes pan recordiodd Cantorion Cynwrig y garol ar un o recordiau cyntaf Sain, Canu'r Bobl, ym 1971.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |