Gwers hanes oedd hi yn Ysgol Rhiwabon; fi, yr athro, a Mark, y disgybl. A dweud y gwir, prin y daeth i'm sylw o gwbl yn ystod y wers gyntaf honno, mewn gwirionedd. Mae athro, medden nhw yn cofio y disgyblion drwg a direidus. Yn sicr, doedd Mark ddim yn perthyn i'r categori hwn. Bachgen distaw o ran ei natur, swil hyd yn oed ond diymhongar, serch hynny. Cwrtais yn ddiffael a doedd byth angen ei ddisgyblu. Y disgybl perffaith!
Roedd yn beniog hefyd; gadawodd yr ysgol yn 16 oed gyda 6 Lefel O; mae'n bosib y byddai'r nifer yna yn uwch pe bai heb golli cymaint o ysgol yn ystod ei flwyddyn olaf. Roedd galwadau niferus ar ei amser - yn cynrychioli Clwyd, gogledd Cymru a'i wlad heb sôn am ei deithiau rheolaidd i Old Trafford.
Cwestiwn a ofynnir yn aml i mi yw a oedd hi'n amlwg, o'r oedran cynnar hwnnw, y byddai Mark yn cael gyrfa lwyddiannus fel pêl-droediwr proffesiynol. Mae'n amhosibl, yn fy marn i, ddatgan gydag argyhoeddiad 100% y bydd bachgen yn cyrraedd y nod ym myd anwadal y bêl gron - waeth pa mor ddisglair yw'r dalent. Mae'n rhaid bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn; rhaid cadw'n glir o anafiadau, yn ogystal. Ond diolch i'r drefn, - ac er gwaetha un cyfnod wedi iddo ymuno' n llawn amser gyda Man. Utd. pan nad oedd hi'n argoeli'n dda - fe oroesodd Mark. Yr hufen yn dod i'r wyneb, fel tae!
Wedi'r wers hanes gynta honno, cefais y fraint (a chredwch chi fi, rwy'n ei hystyried yn union felly) o fod yn hyfforddwr pêl-droed tîmau'r ysgol y bu'n chwarae iddynt am ddwy flynedd. Yn naturiol, fo oedd y capten ac yn chwarae yng nghanol y cae. Y safle lle gallai ddylanwadu fwyaf ar gwrs gêm, a'r safle naturiol i'r chwaraewr a oedd ben ac ysgwyddau yn uwch na'i gymrodyr.
Oedd, roedd ei ddoniau amryddawn yn amlwg, bryd hynny. Doedd dim angen cymhwyster hyfforddi i weld hynny! Y dacl gadarn a di-gyfaddawd, llygad am gôl, agwedd benderfynol iach ynghyd â'r gallu i ddarllen patrwm y gêm. Nid yw'n syndod o gwbl i mi ei fod eisoes wedi gwneud enw iddo'i hun fel rheolwr.
Yn sgîl y gêm gyfartal 2 - 2 yn ddiweddar yn erbyn Bosnia, sefydlwyd record ddiguro newydd gan Gymru; rhediad o naw gêm heb golli dan oruchwyliaeth Mark Hughes. Mae un gêm yn aros yn fyw yn y cof, ac un sy'n crynhoi i'r dim dalent digymar Mark Hughes ar y maes pêl-droed. Ysgol Brynhyfryd Rhuthun oedd y gwrthwynebwyr, ar fore gwlyb a gwyntog ynghanol gaeaf. Cyfartal 1 - 1 oedd hi ar yr egwyl a doedd pethau ddim yn mynd o blaid hogia Rhiwabon. Yna, dyma Mark Hughes yn sydyn yn newid gêr. Sgoriodd bedair gôl yn ystod yr ail hanner. 6 - 1 y sgôr terfynol.
Peniad grymus oedd y gynta o'r bedair yn dilyn cic gornel. Ei ail, taran o ergyd gyda'i droed de o ymyl y cwrt cosbi; y drydedd yn un debyg iawn ond y tro yma, gyda'i droed chwith. Yr ola' oedd yr orau, tin ddi-os. Gôl unigol wych yn dawnsio heibio tri amddiffynnwr dryslyd cyn plannu'r bêl yng nghefn y rhwyd. Celfyddyd pur!
Y drefn, yn ystod egwyl gêm, oedd i mi fel hyfforddwr, yn gynta, ddweud fy neud ynglŷn â pherfformiad y tîm yn yr hanner cynta. Yna, wedi i mi orffen fy mhregeth, troi at y capten a'i wahodd yntau i gyfrannu at y drafodaeth. Ond, yn amlach na pheidio, distawrwydd llethol fyddai'n dilyn gan Mark. Llawer gwell oedd ganddo siarad gyda'i droed ar y maes ac arwain trwy esiampl!
Braint yw cael ymffrostio fy mod wedi hyfforddi Mark am gyfnod yn ystod ei flynyddoedd ffurfiannol yn y gêm. Ond prysuraf i ychwanegu bod Mark Hughes wedi cyrraedd y safon ER GWAETHA, ac nid oherwydd, fy nghyfraniad i!! Gwers hanes oedd hi flynyddoedd yn ôl; fel rheolwr ein tîm cenedlaethol Mark Hughes, sy'n creu'r hanes bellach.
David James