Dros y blynyddoedd mae darllenwyr Nene wedi dod â lluniau o enw'r papur inni o bob rhan o'r byd - gŵydd o'r enw Nene, grŵp pop o Japan yn cael eu galw'n Nene ac afon a rheilffordd a phrifysgol Nene. Daeth y canwr Geraint Dodd â llun o gaffi ym Mhortiwgal o'r enw Nene inni a dyma Nene arall i'w ychwanegu at y rhestr, diolch i Raymond Jones (mab Fanny Green, Gornel gynt ond sydd bellach yn byw yn Wrecsam).
Y mis dwytha, bu Raymond ar ei wyliau ar Ynys Marco, Gorllewin Florida. Roedd wedi bod yno o'r blaen a wedi gweld yr enw 'Ne Ne's Kitchen', a felly mi gymerodd ei gamera a chopi o Nene efo fo y tro hwn i'w ddangos i berchennog y tÅ· bwyta Eidalaidd, Bob Natale.
Roedd Bob wrth ei fodd yn gweld ein papur bro ac o fewn diwrnod roedd wedi ei fframio a'i osod ar wal y tÅ· bwyta.
Yn ôl yr hyn ddywedodd wrth Raymond, mae Ne Ne yn golygu Nain yn nhafodiaith Eidalaidd Bob Natale ('nonno' a 'nonna' ydy taid a nain yn ôl y geiriadur).
Roedd Raymond yn aros gyda ffrindiau mewn fflat yn edrych dros Crescent Beach ar Ynys Marco, Florida, a gofalodd Raymond fod pawb ar y traeth yn cael gwybod am Gymru gan iddo sgwennu 'Cymru am byth' anferth yn y tywod.
Llawer o ddiolch i Raymond am y stori ac am fynd i'r drafferth o dynnu'r lluniau a dod â nhw i fyny i'r Rhos ar ein cyfer.
Mae'n braf meddwl fod tudalen flaen Nene mis Chwefror 2009 mewn ffrâm ar wal tŷ bwyta yn Florida - ac os bydd rhai o'n darllenwyr yn digwydd bod yn teithio yno, cofiwch roi pic i mewn i 'Ne Ne's Kitchen' a dweud eich bod yn nabod Raymond a hefyd yn un o ddarllenwyr Nene...mi gewch glamp o groeso gan Bob Natale.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |