Fel mae'r rhan fwyaf o ddarllenwyr Nene - ac yn siwr ddigon pawb yn y Ponciau - yn gwybod, mae Post Poncie fel post wedi cau ers mis Tachwedd diwethaf. Fe'i caewyd ynghyd â miloedd o swyddfeydd post eraill ledled Prydain gan y llywodraeth am nad oedd yn gwneud digon o arian.
Fe benderfynodd y bost feistres, Anne Clewer, gadw'r lle ar agor fel siop gornel leol gan ei bod hi wedi treulio deg mlynedd o'i hoes a gwario cryn swm o arian yn trawsnewid yr adeilad ac yn cynyddu'r busnes. Ddechrau'r mis diwethaf fodd bynnag penderfynodd na ellid cario ymlaen ac y byddai'n cau ar y penwythnos olaf ym Mawrth. Fe ddywedodd Anne ei bod wedi dod i'r penderfyniad anodd oherwydd bod nifer y cwsmeriaid wedi gostwng a hefyd yn bennaf am fod y dreth i'r Cyngor am un stafell fusnes yn ddrud.
Mae Anne wedi treulio'i hoes yn gweithio i swyddfa'r post ac fe symudodd hi a David ei gŵr a'r teulu yma o Cannock yng nghanolbarth Lloegr dros un flynedd ar ddeg yn ôl. Er iddi gael mwy na'i siâr o helbulon yn ystod y cyfnod hwn - gan gynnwys dihirod yn ei bygwth efo gwn a fandaliaid yn taflu paent gwyn dros flaen y siop - mae hi a'r teulu wedi penderfynu aros yn ein plith.
Fe roddodd Anne wasanaeth gwiw i drigolion y Ponciau a bu'n hynod o deyrngar i Nene. Roedd yn gwerthu'r papur a'r calendr yn gyson a byddwn yn collei ei chymwynas a'i gwen bob mis. Rydyn ni i gyd yn diolch iddi ac yn dymuno'r gorau iddi a'r teulu am y dyfodol.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |