Mae Cantorion y Rhos yn dechrau ar gyfnod prysur dros ben yn ystod mis Rhagfyr a Ionawr, ac maen nhw eisoes, ar ôl ailddechrau ar ôl y toriad dros wyliau'r haf, wedi cynnal cyngherddau yn Eglwys y Plwyf, Gresffordd, ac Eglwys y Methodistiaid, Llangollen, ac mewn priodas deuluol. Nhw hefyd oedd y côr a fu'n angori'r noson 'Dewch ynghyd i ganu'r Messiah' er mwyn codi arian i Hosbis Tŷ'r Eos a gynhaliwyd yn y Stiwt yn ddiweddar.
Yn ystod mis Rhagfyr, bydd Cantorion y Rhos yn ymddangos ym Mhlasty Eaton, Eglwys y Plwy Gresffordd, ac Eglwys y Plwy, Wrecsam. Gydol y cyfnod hwn bydd yr aelodau'n paratoi ar gyfer cyngerdd y côr a gynhelir nos Wener, Ionawr 15fed, 2010 pan fyddant yn rhannu'r llwyfan y Stiwt â'r pianydd enwog ac athrylithgar Llŷr Williams o Bentrebychan.
Mervyn Cousins yn ymadael
Cyhoeddodd y Cadeirydd, Brian Coles, y newyddion trist y mis diwethaf, fod Mervyn Cousins yn bwriadu rhoi'r gorau i'w swydd fel Cyfarwyddwr Cerdd Cantorion y Rhos, swydd y mae wedi bod ynddi ers saith mlynedd. Y rhesymau dros ei ymddeoliad yw fod ei ymrwymiadau fel Prif Swyddog Gweinyddol Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi cynyddu ac mae'r galwadau arno fel un o arholwyr cerdd y Byrddau Arholi'n golygu ei fod yn gorfod treulio cyfnodau hirach dramor. Esboniodd Mervyn y byddai'n aros gyda'r côr hyd Ebrill 2010, pryd y bydd y côr yn ymweld â Bangor a Gogledd Iwerddon.
Ffurfiwyd Cantorion y Rhos ym 1981 ac mae gan yr aelodau gysylltiadau agos â Rhosllannerchrugog. Mae repertoire y côr yn eang ac mae'n cwmpasu cerddoriaeth o'r 16g ymlaen, gan gynnwys y prif gyfansoddwyr yn ogystal ag amrywiaeth gynyddol o weithiau modern. Mae'r côr wedi comisiynu sawl gwaith gan y cyfansoddwr lleol Brian Hughes.
Mae llwyddiannau mewn cystadlaethau'n cynnwys Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Cystadleuaeth Gorawl Gogledd Cymru, Gŵyl Gerdd Caer a Chôr y Flwyddyn 91Èȱ¬ Radio Cymru. Mae'r côr hefyd wedi bod ar daith gerddorol yn yr Almaen a Gwlad Pwyl, lle roedd cynulleidfaoedd ar eu traed yn cymeradwyo.
Ar hyn o bryd, mae'r côr yn brysur yn chwilio am arweinydd i olynu Mervyn Cousins ym mis Ebrill.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |