Cydnabod cyfraniad Tachwedd 2001 Mae Dave Watts wedi derbyn tlws gan Bennaeth Uned Ddamweiniau Ysbyty'r Brifysgol yn Lerpwl am ei gyfraniad anhygoel yn rhoi 76 peint o waed dros y blynyddoedd i'r Gwasanaeth Gwaed Cenedlaethol.
Teithiodd Dave Watts, Nant Parc, Johnstown i Ganolfan Roy Castle yn Lerpwl i dderbyn ei wobr.
Ond nid am ei dystysgrifau, ei wobr a'i gyfraniad enfawr i'r banc gwaed cenedlaethol y mynnai Dave siarad, ond yn hytrach am yr angen mawr i bobl gynnig eu gwaed.
Bellach mae prinder gwaed mewn ysbytai, yn enwedig y grwpiau gwaed prin.
Dros y blynyddoedd mae Dave wedi rhannu 76 peint o'i waed ei hun i helpu eraill.