91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Llyffant yn y llyfrgell! Llyffant yn y llyfrgell!
Ebrill 2010
Ymwelodd Adran Blynyddoedd Cynnar Ysgol Gynradd Pen-y-Cae â Llyfrgell y Rhos yn ddiweddar.

Roedd Nerys Woodall, Swyddog Cyswllt Blynyddoedd Cynnar Llyfrgell Wrecsam, wedi ymweld â phlant yr ysgol yr wythnos cyn iddyn nhw ymweld â'r Llyfrgell, er mwyn darllen storiau iddyn nhw. Roedd hi hefyd wedi gofalu dosbarthu cardiau cofrestru ar gyfer bod yn aelodau o'r llyfrgell fel y gallai'r plant eu cymryd adref a chofrestru'n aelodau cyn iddyn nhw ymweld â'r Llyfrgell.

Yn ystod yr ymweliad a drefnwyd ganddi, cyflwynodd bob math o weithgareddau - gwrando ar storiau, canu caneuon a gweithgareddau celf...a lluniaeth! Cafodd rhai o'r plant gyfle i gyfarfod â Freddie'r Llyffant, mascot sy'n ymweld â'r Llyfrgell yn ystod Wythnos Lyfrau'r Byd.

Roedd y plant a oedd wedi dod efo'u cardiau cofrestru'n ôl yn medru dewis eu llyfr cyntaf i'w gymryd allan o'r llyfrgell a helpodd Nerys nhw i hawlio'u llyfr ar fenthyg trwy sganio'r côd bar a stampio'r dyddiad arno.

Cafodd y plant a'r athrawon amswer gwych a dysgwyd llawer am y llyfrgell a gobeithir trefnu ymweliad arall yn fuan iawn. Bydd y cysylltiadau a grëwyd rhwng yr ysgol a'r llyfrgell o fudd i'r ysgol, y plant a'u teuluoedd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý