![Chwaraeon](/staticarchive/eaf5fe77647f69d5a771b38fc0cecec098626cc4.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Un o bêl droedwyr mwyaf llwyddiannus Cymru
Wyddech chi?: Enw cyntaf Mark ydy Leslie.Ganwyd a magwyd Mark yn Rhiwabon ger Wrecsam ac mae o'n un o'r pêl-droedwyr mwyaf llwyddiannus o'r ardal. Yn ôl Mark, ei deulu a'i athrawon ymarfer corff fu'n gyfrifol am ei lwyddiant. Wrth chwarae dros ei wlad mewn twrnament dan 12 fe wnaeth argraff fawr ar sgowtiaid o Fanceinion ac fe arwyddodd yn 14 oed i chwarae i dîm ieuenctid Manchester United. Mewn gyrfa a ddylanwadwyd yn drwm gan y 'Red Devils', fe chwaraeodd dros Gymru saith deg o weithiau gan sgorio 16 o goliau ac yn ddiweddar bu'n amlwg iawn yn arwain Cymru fel hyfforddwr yn yr ymdrech i gyrraedd Cwpan Ewrop 2004. Aeth gyrfa Mark â fo dramor am sbel ddwy waith, i Bayern Munich a Barcelona. Synnodd Alex Ferguson ei gefnogwyr wrth werthu Hughes i Chelsea yn 1995 ar ôl iddo fod yn Old Trafford am saith mlynedd. Yn eironig ddigon fe blesiodd hyn Mark gan mai nhw oedd ei hoff dîm yn hogyn ifanc. Fe symudodd o Stamford Bridge am sbel i Southampton cyn symud i Blackburn ac yna i'r swydd fel rheolwr tîm Cymru, cyn symud yn ôl i Blackburn eto. Ym Mehefin 2008 fe'i penodwyd yn rheolwr newydd Manchester City. Blwyddyn fawr gyntaf Mark oedd 1984 pan sgoriodd y gôl enillodd y gêm i Gymru 1-0 yn erbyn Lloegr yn yr olaf un o'r gêmau rhyngwladol cartref.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![0](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|