91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Rhos
Lampau'r Glowyr
Derbyniodd pob un o enillwyr Gŵyl Gerdd Dant 2006 dlws sydd yn nodweddiadol o ardal ddiwydiannol Rhosllanerchugog.
Bu Arwel Jones, Cadeirydd Pwyllgor lleol yr Å´yl Gerdd Dant eleni yn egluro arwyddocad y tlysau.

Un o'r lampau

"Ardal pwll glo yw hon ac rydym wedi comisiynu 60 o'r lampau a bydd pob enillydd unigol yn derbyn un o'r lampau hyn.

"Mae Cyngor Bro'r Rhos wedi prynu dros drigain o lampau fel tlysau ar gyfer yr ŵyl.

"Maent yn lampau hardd, rhai pres ac wedi argraffu arnynt mae Gŵyl Gerdd Dant Rhosllanerchrugog a'r Cylch 2006.

"Gwahoddwyd Dafydd Iwan yma a gan ei fod yn hanu o Frynaman, sy'n ardal debyg i ni, fe gyflwynwyd lamp iddo.

"Mae'r diddordeb wedi lledu i'r ysgolion lleol ac mae'r plant wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil am eu teidiau a'u cyn deidiau oedd yn gweithio mewn gwahanol byllau glo.

"Maen nhw wedi bod yn dod â lampau i'r ysgol - lampau eu teidiau - ac mae hynny wedi creu cryn ddiddordeb.

"Rydym wedi dod ag ysgolion o Glyn Ceiriog i Goedpoeth at ei gilydd.

"Mae Glyn Ceiriog yn ardal chwareli ac roeddynt yn defnyddio lampau yn y fan honno ac wrth fwyn gloddio yng Nghoedpoeth.

"Roedd Tom Ellis yn rheolwr pyllau glo Glanrafon a'r Hafod cyn dod yn Aelod Seneddol Wrecsam.

"Mae ganddo ef lamp ei dad, sef y person cyntaf i fynd lawr pwll Gresffordd wedi'r drychineb mawr ym 1934."

"Fe aeth ef hefyd, fel ei dad, i weithio i'r pwll ac mae wedi cadw ei lamp bersonol.

"Mae'r lamp yn symbolaidd iawn o'r ardal hon, o un pen i'r llall."

  • Canlyniadau Gŵyl Gerdd Dant 2006

  • Gŵyl Gerdd Dant 2006


  • Hanes
    Radio Cymru
    Trefi


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý