Cyn y digwyddiad, bu Arwel Jones Cadeirydd y Pwyllgor lleol yn sôn sut y daeth Y Rhos i gynnal yr Ŵyl eleni. "Dewi Jones, Llangwm yw trefnydd cenedlaethol yr ŵyl ac rwyf wedi ei adnabod ers blynyddoedd. Mae Dewi yn dragwyddol yn chwilio am leoliadau ar gyfer yr ŵyl ac fe gysylltodd gyda fy merch Llinos, sydd yn delynores Bro Maelor, rhyw ddeunaw mis yn ôl.
"Does dim cefndir Cerdd Dant yn Y Rhos, gydag ond rhyw ddau neu dri theulu lleol erioed wedi ymddiddori.
"Ond fe wnaethom ni dderbyn y gwahoddiad ac roeddem yn awyddus gwneud sbloets fawr gan ddechrau gyda'r Cywydd Croeso a'r Cyngerdd Croeso.
"Yn ystod yr wythnos cyn yr ŵyl cynhelir sawl digwyddiad gyda Thalwrn y Beirdd ar y nos Fercher ac ar y nos Wener mae Dawns Werin fawr yn y Wynnstay yn Rhiwabon.
"Wnes i wahodd pob Ysgol Gymraeg yn y cylch - saith o ysgolion i gyd - i gymryd rhan yn y cyngerdd agoriadol.
"Ac ers hynny maent wedi bod yn frwdfrydig iawn. Doedden nhw erioed wedi cystadlu o'r blaen yn yr Ŵyl Gerdd Dant, ond maent i gyd wedi derbyn hyfforddiant gan bobl fel Aled Lloyd Davies a Mair Carrington sydd wedi bod yn ymweld â'r ysgolion.
"Rydym wedi syfrdanu bod cymaint o ddiddordeb ac felly roeddwn yn teimlo bod rhaid cynnal Cymanfa Ganu yn y Stiwt.
"'Dwi'n adnabod Owain Arwel Hughes yn bersonol ac fe ofynnais iddo arwain y Gymanfa, gyda thorf gwerth chweil yn bresennol.
"Cefais y syniad hefyd o Gymanfa Blant a bu 400 o blant o bob cwr o Wrecsam yn y Stiwt gan greu sŵn mawr yno.
"Bu Dechrau Canu Dechrau Canmol yn recordio'r ddwy gymanfa a bydd dwy raglen yn cael eu darlledu ym mis Tachwedd a mis Ionawr.
"Mae'r Å´yl ar gyfer Rhosllanerchugog a'r Cylch ond mae'n bwysig bod Sir Wrecsam o un pen i'r llall yn elwa, ac rydym wedi cael swm sylweddol o arian gan Gyngor Wrecsam
"Rydym yn disgwyl dwy neu dair mil o bobl i ymweld â'r Rhos.
"Mae'r ceisiadau wedi dod o bobman ac yn ôl Dewi mae wedi derbyn mwy o geisiadau nag erioed."
"Mewn un gystadleuaeth roedd 35 wedi rhoi eu henwau ymlaen yn barod. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at yr ŵyl.
"Rydym yn mynd i gael ffrwydriaid o Gymraeg ac rwyf eisiau i'r ŵyl adael rhyw fath o farc yn yr ardal hon."
Holl ganlyniadau'r dydd
Tlysau'r enillwyr - Lampau'r Glowyr