Rhoddwyd Siarter Brenhinol i'r dref ar 13 Mai 1857, siarter a ddaeth yn weithredol ar 23 Medi y flwyddyn honno. Roedd y Fwrdeistref newydd yn cynnwys trefgorddau Wrecsam Regis (sef y rhan o'r dref i'r ochr ogleddol o Afon Gwenfro, fwy neu lai) a Wrecsam Abad, ynghyd â rhan fechan Esclusham Isaf (sef yr ardal o gwmpas Pentre Felin).
Ar ganol y G19eg, mae'n debyg nad oedd Wrecsam yn lle iach iawn i fyw ynddo gyda phroblemau iechyd a glanweithdra dybryd a heb unrhyw system garthffosiaeth. Felly penderfynwyd y dylid gwneud y dref yn fwrdeistref gydai'i siarter a'i Chyngor ei hun er mwyn ceisio gwella ansawdd bywyd ei thrigolion. Heb reolaeth corfforaethol, ni ellid fod wedi delio'n effeithiol â'r problemau a ddaethai yn sgîl cynnydd yn y boblogaeth, problemau fel tai o ansawdd gwael, afiechydon a phobl yn marw'n ifanc.
Erbyn heddiw, mae canol yr hen dref wedi gweddnewid. bron yn llwyr gyda llawer o'r hen adeiladau wedi'u dymchwel a'u disodli gan lefiathanau concrid newydd. O fewn yr ychydig ddegawdau diwethaf yma, gwelwyd codi llawer o siopau ac archfarchnadoedd newydd; canolfan heddlu, ysgolion a cholegau modern; swyddfeydd, capeli, ysbyty, amgueddfa, llyfrgell a marchnad newydd i'r bobl, heb sôn am gyfleusterau adloniant a chwarae gyda'r gorau yn y wlad - y cyfan yn dyst o'r bywyd a'r hyder newydd sydd i'w weld o'n cwmpas erbyn hyn ac yn gwneud Wrecsam yn dref fodem, gyffrous a all wynebu sialensau'r G21ain gyda hyder a gobaith.
Nôl yn yr G17eg, disgrifiodd Morgan Llwyd y dref fel 'Wrecsam decaf, ac yn yr G20fed fe'i disgrifiwyd gan Ian Nairn yn y Sunday Times fel 'un o'r trefi mwyaf atyniadol y gwn Mhrydain, yn gymysg o ddau ddiwylliant ac yn pontio'r holl ganrifoedd."
Hir y pery felly.
(Gyda llaw, llongyfarchiadau i'r Amgueddfa leol ar yr Arddangosfa a gynhaliwyd yn o nodi'r dathlu.)
|