Roeddwn i'n anghywir ym mhob achos. Treuliodd Eunice a minnau fis yn yr Ariannin ac ni wnaethom unwaith ddweud 'Fyddai'n well gen i fod adre!'Roedd yn brofiad hyfryd, yn enwedig pan oeddem ni ymhlith Y Gymreig, yn gwrando ar Archentwr o'r bedwaredd genhedlaeth yn siarad Cymraeg ac yn swnio fel pe bai wedi dod syth o Ruthun.
Roedd Grahame, ein mab iau, wedi bod ar ymweliad â Phatagonia gyda'r gwaith rai blynyddoedd yn ôl, ac mi fynnodd y dylen ni gymeryd y cyfle o fynd i'r Ariannin pan ddaeth y siawns.
Ym mis Hydref y llynedd aethom ni yng nghwmni Ann-Marie a Tito Lewis ac 16 o rai eraill, yn bennaf o Dde Cymru, i gyd yn siaradwyr Cymraeg, gan hedfan o Gatwick drwy Madrid i Buenos Aires. Yn ystod y mis fe deithion ni o Buenos Aires yn y Gogledd i Ushuaia yn yr Antartic, ac o Gorllewin i'r Dwyrain o Esquel yn yr Andes i Borth Madryn ger Penrhyn Valdes.
Yn Buenos Aires fe wnaethon ni ymweld â'r Plaza de Mayo, y Casa Rosada, La Boca, Palermo, Recoletta (bedd Eva Peron) ac aethom i siopa yn Avenida Florida, gan lwyddo hefyd i wasgu i fewn i'r amserlen daith i weld sioe Tango un noson.
Hedfan wedyn i Bariloche, ar y ffin gyda Chile, a threulio rhai dyddiau yn Esquel (Cwm Hyfryd) a Threvelin lle cawson ni groeso Cymreig cynnes yn y Ganolfan Esquel, sy'n gysylltiedig â Chapel Seion ar Stryd Rivadavia. Aethom i wasanaeth yn Seion hefyd ar y Sul, lle bu un o'n parti, y Parchedig Byron Davies o Ben-y-bont ar Ogwr, yn arwain. Un o'r uchafbwyntiau oedd ymweliad ag "Ysgol Gymraeg yr Andes."
Yn Nhrevelin fe gwrddom â Vincent Evans "Y Gaucho Cymreig" a'i gymydog, y ffarmwr Mr. Rowlands. Roedd y ddau yn rhugl eu Cymraeg a'u Sbaeneg ond heb air o Saesneg rhyngddyn nhw. Ganed taid Mr Rowlands yn y Bala. Aethom hefyd i'r amgueddfa yn nhŷ John Daniel Evans, a gweld bedd ei geffyl Malacara (mae'r enw'n golygu 'wyneb hyll'). Hwn oedd y ceffyl a achubodd fywyd John Evans rhag yr Indiaid a oedd wedi lladd y tri Chymro oedd yn ei gwmni. Mae Malacara yn cael ei barchu gan Gymry a Sbaenwvr fel ei gilydd.
Pan wnaethom ni alw yn Amgueddfa Melin Trevelin roedd yn llawn o drugareddau Cymreig, ond sut yn y byd ddaru organ bedal o "Cranes of Regent Street Wrexham" gyrraedd yr Andes yn hwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ?!
Y stop nesaf oedd Trelew wedi taith saith awr ar draws yr anialwch yn dilyn llwybr yr afon Camwy i mewn i'r Dyffryn lle wnaethom ymweld â Dolavon, Gaiman a Threlew. Arhosodd y parti yn Nhrelew gan fynychu "Eisteddfod y Wladfa" lle bu Elinor Bennett yn brif feirniad. Daeth corau i gymryd rhan o mor bell i ffwrdd â Buenos Aires, ac fe aeth y cystadlu ymlaen tan dri o'r gloch y bore. Cynhaliwyd seromoni'r Orsedd yn y Gaiman, gyda'r orymdaith yn dechrau yng Nghapel Bethel lle aethom yn nes ymlaen i'r Gymanfa Ganu.
Ein harosiad nesaf oedd Puerto Madryn, lle glaniodd y Cymry yn 1865 a lle maent wedi eu coffau gyda cherflun enfawr a enwir 'Y Gymraes' ac un arall yn dangos 'Indiad' yn croesawu'r diethriaid. O borthladd bychan Puerto Pyramides aethom ar fwrdd llong i fynd i wylio morfilod ym môr Iwerydd. Wedi hynny, aethom i Caleta Valdes, gan ddringo i lawr y clogwyni, a gweld cartref y morloi eliffant mawreddog, eu 'harems' a'u teuluoedd.
Y daith nesaf oedd i El Calafate er mwyn aros mewn cabannau pren, i fynd ar daith gerdded ym Mharc Cenhedlaethol Los Glaciares ac i weld y rhewlif symudol enfawr Perito Moreno.
O El Calafate i lawr i'r Antartic i "Ddiwedd y Byd" a "Tierra del Fuego" er mwyn aros yn Ushuaia (tref fwyaf deheuol y byd). Tra'r oedden ni yno, cawsom y cyfle i gael taith ar hyd sianel y Beagle, yn agos at y ffin gyda Chile a chyda mynyddoedd ysblennydd ar bob ochr.
Yn ôl i Buenos Aires unwaith eto, ac yn ôl adre at ein Gwladfa ein hun.
Gan: Oswald Davies.