Os bu 'sir' sgitsoffrenig erioed, Clwyd oedd honno, ac er nad yw'n bodoli fel uned wleidyddol mwyach, cafodd ei hatgyfodi i bwrpas casgliad newydd o gerddi difyr a dadlennol.Yn ôl Aled Lewis Evans, golygydd Cerddi Clwyd, y nawfed cyfrol yng nghyfres boblogaidd Gwasg Gomer, Cerddi Fan Hyn, "Gobeithio fod y cerddi'n herio'r ddelwedd a'r disgwyliadau am y gogledd ddwyrain gan ei bod yn ardal weithgar, agos-atoch a chynnes ei naws ."
Problem cwtogi oedd gan Aled Lewis Evans, gan fod cynifer o gerddi wedi eu hysgrifennu am yr ardal. "Cant o gerddi sydd yn y casgliad, ond gallwn fod wedi llunio blodeugerdd ddwywaith y maint! Mae fy mhwyslais personol ar innau yn y gyfrol ar y cyfoes a'r dealladwy, - cerddi poblogaidd sy'n cyfathrebu â thrwch y boblogaeth," meddai Aled.
Dyna agwedd y byddai cawr llenyddol mwyaf yr ardal arbennig hon, Daniel Owen, wedibod yn falch iawn ohoni oherwydd dywedodd yntau mai "nid i'r doeth a'r deallus yr ysgrifennais ond i'r dyn cyffredin", a chasgliad i bobl Clwyd a gweddill Cymru - am yr ardal unigrywhon, ei hanes a'i chymeriadau ydyw Cerddi Clwyd.
Lansiwyd y gyfrol yn Llyfrgell Wrecsam, nos Fercher, 17 Tachwedd yng nghwmni'r golygydd, Aled Lewis Evans a rhai o feirdd lleol y gyfrol - Olwen Canter, Alun Davies, Gwynne Williams, Norman Closs Paffy, Sydney Davies a Sera Meirion Jones.
Mae'r gyfrol hon o gant o gerddi'n ymwneud â lleoedd a phobl yn yr hen Sir Clwyd, er enghraifft, Dyffryn Clwyd ei hun, Dinbych, Rhyl, Llangollen, Dyffryn Ceiriog, Rhos ac, inni wrth gwrs, Wrecsam ac Ysgol Morgan Llwyd. Ymhlith y bobl, mae cerddi i Lewis Valentine,David Lloyd, Emlyn Williams a Tegla ymhlith eraill.
Llongyfarchiadau i Aled am gyfrol ddiddorol a destlus a ddylai apelio at bawb ac a ddylai wneud anrheg Nadolig ardderchog. Cofiwch ei phrynu. Manylion llyfryddol:
Cerddi Fan Hyn: Clwyd
Gol. Aled Lewis Evans, £6.95, Gwasg Gomer.