Pwy fuasai'n credu? Fel hyn yr edrych y safle ar hyn o bryd. [Cliciwch ar y ddolen isod i weld mwy o luniau.]
Mae'n amlwg y bydd yn ddigwyddiad chwyldroadol yn hanes Wrecsam - canolfan siopau rhyfeddol fodern, ac adnoddau i hamddena, bwyta, chwaraeon a sinema a.y.b.
Tybed a yw strwythur ein ffyrdd yn gallu derbyn y fath gynnydd mewn trafnidiaeth? Maes parcio i 1000 o geir, lorïau'n danfon nwyddau yn ôl ac ymlaen heblaw gweithwyr a siopwyr.
Tybed a wnaiff patrwm canol y dref newid? Mae gorsaf fysiau ardderchog un pen i'r dref a 'r siopau y pen arall! Mae sôn am fwsiau "shuttle" i gludo o amgylch y fro.
Mae'r "CLAWDD" yn dymuno yn dda i'r fenter uchelgeisiol a ddylai wella ein cyfleusterau ac atyniadau, a rhoi delwedd newydd i Wrecsam, heb law creu swyddi i gannoedd. Mwy am ddatblygiad Dôl Eryrod
|